Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 18 Hydref 2022.
Rwyf i am ddiolch hefyd i'r comisiynydd plant sy'n gadael a chroesawu'r un newydd. Ddoe, wrth gwrs, roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Tlodi. Wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddathlu hynny drwy ddychwelyd i lymder a'r polisi trychinebus hwnnw a wnaeth drosglwyddo ein gwlad i ddegawd goll o dwf isel, gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu’n ddigonol ac anghydraddoldeb cynyddol. Fodd bynnag, o dan lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, roedd tlodi plant yn gostwng. Ac rwy'n canolbwyntio'n arbennig ar dlodi plant, oherwydd plant yn dod allan o dlodi fydd yn eu gweld nhw'n cael bywydau gwell, gwell cyfleoedd, gwell siawns, a gwell mynediad at y pethau hynny fydd yn gwella eu hamgylchiadau, fel gwres, fel bwyd ac fel dillad da. Felly, rwyf i yn credu, pan fyddwn ni'n siarad am benderfyniadau anodd a pholisïau ariannol, fod angen i ni feddwl sut mae'r penderfyniadau anodd hynny yn edrych ar gyfer rhai aelwydydd—fel ailddefnyddio cewynnau budr, dyfrio llaeth fformiwla, a babi'n cysgu mewn drôr a phlentyn saith oed mewn cot teithio oherwydd nad ydych chi'n gallu fforddio gwely. Dyna'r hyn rydych chi'n ei alw'n benderfyniadau anodd mae teuluoedd yn eu gwneud nawr ym Mhrydain heddiw. Maen nhw'n deillio o adroddiad gan yr elusen Little Village, sy'n rhedeg dros 200 o fanciau babanod ledled y DU. Banciau bwyd, banciau cynnes a banciau babanod—mae'r Torïaid yn gwneud llawer iawn o fancio mewn argyfwng. Ac mae hynny'n cael ei roi yng nghyd-destun yr hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw.
Mae llawer iawn yma sydd wedi symud ymlaen a llawer y gallwn ni ei ddathlu, llongyfarch a chanmol, ond yr her i'r comisiynydd newydd wrth symud ymlaen, fel mae’r adroddiad yn ei nodi, yw helpu i fynd i’r afael â thlodi, ac ymateb i’r tlodi hwnnw rwyf i newydd ei amlinellu, ac rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau, fel yr Haf o Hwyl estynedig, sydd yn yr adroddiad hwnnw, prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd—sy’n wirioneddol hanfodol nawr yn ystod yr amser hwn—a'r cynnig gofal plant estynedig, fel y gall rhieni fynd allan i weithio ac ennill rhywfaint o arian a hefyd cael rhywfaint o urddas. Ac mae'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal a gafodd ei grybwyll yn gynharach yn gam cadarnhaol. Maen nhw'n cael eu priodoli i’r gred bod pawb yn elwa pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn plant a'u teuluoedd, nid pan fyddwn ni'n dwyn dechrau teg a chyfleoedd oddi ar bobl ifanc.
Rydw i eisiau canolbwyntio ar blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar y siarter rhianta corfforaethol, ac mae wedi cael ei argymell gan y comisiynydd bod angen i ni symud i ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod pob Aelod etholedig yn deall—nid yma, ond ar bob lefel, awdurdod lleol hefyd—mai nhw yw rhiant corfforaethol y plentyn sy'n derbyn gofal, ac nad yw'n wir y gallant ddadlwytho eu hymrwymiadau oherwydd bod y plentyn hwnnw allan o'r sir neu, mewn rhai achosion, achosion hynod o brin, allan o'r wlad. Yr hyn rwy'n credu mae angen i ni ganolbwyntio arno yw pwy sy'n bwydo—. Beth yw'r strwythur a'r mecanwaith ar gyfer bwydo anghenion penodol y person ifanc hwnnw sydd mewn gofal preswyl yn ôl? Beth sy'n digwydd i'r adroddiadau hynny, os oes unrhyw rai—ac ni welais i unrhyw rai pan oeddwn i'n gynghorydd, ond efallai fod pethau wedi symud ymlaen—a phwy sy'n eirioli ar ran y plentyn hwnnw, oherwydd mae eiriolaeth ar ran y plentyn hwnnw yn hynod bwysig? Ac, wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw proffidioldeb cynyddol sy’n gysylltiedig yn fwy diweddar â chwmnïau sy'n gwneud arian allan o gyni'r plant hynny, sydd yn warthus i mi, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac, yn enwedig yn sir Benfro, mae gennym ni dipyn o leoliadau derbyn gofal. Nid wyf yn awgrymu bod y bobl benodol hynny yn elwa'n anghymesur, ond rydym ni’n gwybod bod adroddiadau wedi bod lle mae pobl yn elwa'n anghymesur wrth redeg nifer o fannau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Felly, mae hwnnw’n faes, rwy’n credu, sydd angen pwyslais penodol. Rydyn ni'n sôn am les y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch.