Parciau Cenedlaethol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 1:30, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn ein parciau cenedlaethol, mae’n hanfodol fod pobl leol yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, a bod y parciau cenedlaethol yn sefyll o'u plaid a bod ganddynt gynrychiolaeth o’r ardal honno. Mae Llywodraeth Cymru yn penodi nifer o bobl i barciau cenedlaethol, ond yn anffodus, nid yw rhai o'r bobl hynny'n dod o Gymru hyd yn oed. Felly, yr hyn yr hoffwn ei weld yw system lle gall pobl leol gyfrannu at y broses benodi honno i sicrhau bod gennym bobl leol yn cynrychioli ein parciau cenedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr fod ein busnesau a’n cymunedau'n teimlo bod ein parciau cenedlaethol yng Nghymru yn gwrando arnynt ac yn eu parchu. Diolch, Lywydd.