Mercher, 19 Hydref 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.
1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud parciau cenedlaethol yn fwy atebol i bobl leol? OQ58580
2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ58587
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Janet Finch-Saunders.
3. Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ58553
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ddigonolrwydd hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru? OQ58564
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 7 Hydref? OQ58566
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau lleol o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu? OQ58561
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai? OQ58556
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ynni yn Islwyn? OQ58589
9. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r anghysondeb ar draws awdurdodau lleol o ran y trothwyon milltiroedd a...
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi. Y cwestiwn cyntaf heddiw gan Natasha Asghar.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r manteision posib o greu parthau buddsoddi trethi isel yng Nghymru? OQ58563
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo prosiectau treftadaeth ffydd yng Ngogledd Cymru? OQ58575
Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella treftadaeth hanesyddol Casnewydd? OQ58579
4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch y strategaeth arloesi i Gymru? OQ58571
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint o byllau nofio allai orfod cau'r gaeaf hwn o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw? OQ58557
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gweithlu a'r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru? OQ58583
7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o sut mae lefelau buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn cysylltedd digidol yn effeithio ar economi gogledd Cymru? OQ58562
8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn sgil chwyddiant a chynnydd mewn costau ynni? OQ58577
Yr eitem nesaf, yn gyntaf, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Mae hynny'n caniatáu inni symud ymlaen at eitem 3, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Ac felly y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Jack Sargeant.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr...
Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark...
Eitem 8 sydd nesaf.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian.
Cyn i mi alw am bleidlais, a gaf fi atgoffa pob Aelod o'r canllawiau newydd ar bleidleisio a bod disgwyl i bob Aelod sydd ar yr ystad fod yn y Siambr i bleidleisio? Byddaf yn disgwyl i unrhyw...
Byddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer, ac felly os gall Aelodau adael y Siambr yn dawel cyn i fi alw ar Altaf Hussain i gynnig y ddadl fer. Altaf Hussain.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod yr economi yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn Arfon yr effeithiwyd arnynt gan broblemau gyda chynllun Arbed 2?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Network Rail am wella dibynadwyedd trenau yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia