Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 19 Hydref 2022.
Credaf hefyd fod barn pobl leol yn bwysig. Yn bwysicach fyth, credaf ei bod yn bwysig diogelu ein parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r llain las—mae pob un ohonom yn elwa ohonynt. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig gwarchod yr ardaloedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn wahanol i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, a ddywedodd fod datblygu yn iawn cyhyd â bod y seilwaith yn cael ei roi ar waith, megis meddygfeydd, ysgolion a seilwaith trafnidiaeth?