Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 19 Hydref 2022.
Cwyn gyffredin yn ystod cymorthfeydd stryd yw cyflwr y rhwydwaith bysiau. Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i gynifer o bobl ac mae hynny’n arbennig o wir ym Mlaenau Gwent, lle mae perchnogaeth ceir yn isel a lle ceir cyfran uwch o bobl hŷn nag mewn llawer o etholaethau eraill. Yn anffodus, pe baech am deithio ar fws rhwng Aber-bîg a Chwm—taith 10 munud mewn car—byddai’n cymryd awr a 44 munud, gan ei fod yn mynd y ffordd hir o gwmpas. A wnewch chi roi syniad o’r broses o gyflwyno amserlen fysiau newydd ynghyd â'r gyllideb ar gyfer hynny? A wnewch chi hefyd ymgynghori â defnyddwyr bysiau yn y cymunedau lle mae llwybrau’n gweithredu fel bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio gyda hwy mewn cof?