Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:40, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, ymunais â chyfarfod brys gyda grŵp o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i drafod dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru. Ymysg eu hofnau a’u gofidiau a’u pryderon oedd y teimlad fod Llywodraeth Cymru, yn eu barn hwy, wedi methu creu sylfaen gadarn i ysgogi adeiladu tai cymdeithasol newydd. Dim ond oddeutu 9,000 o gartrefi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol a adeiladwyd rhwng 2010 a 2019, cyfartaledd o 1,000 y flwyddyn. Mae hyn yn llawer llai na'ch amcangyfrif chi, hyd yn oed, fod angen rhwng 3,000 a 6,000 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Mewn gwirionedd, mae eich ymrwymiad maniffesto eich hun, sy'n dweud y byddech yn adeiladu

'20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu' yn y fantol. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi fy rhybuddio, os na allant gynyddu rhenti'n unol â chwyddiant eleni, y bydd yn rhaid gwneud toriadau difrifol i’r gwasanaethau a ddarparant. Maent yn darparu cyngor ar ddyledion. Mae llawer o bethau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu cynnig wrth ddarparu llety o safon. Yn sicr, hoffwn gofnodi fy niolch am y rhan y maent yn ei chwarae yn darparu cartrefi i bobl yng Nghymru. Ond hefyd, byddai toriadau difrifol yn cael effaith ar eu gallu i barhau gyda phrosiectau adeiladu. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau nad oes rhaid i’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu hunain ohirio'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol newydd mewn unrhyw fodd?