Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:37, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Gwn ein bod yn awyddus i edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl, ond mae’n werth nodi mai’r rheswm pam fod gennym wasanaeth bysiau o gwbl bellach yw oherwydd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a’i gynllun olynol, a gychwynnwyd yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ac roedd honno'n enghraifft o Lywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i gynorthwyo gwasanaeth preifat. Nawr, credaf fod gan y gwasanaeth preifat le i dalu'n ôl i ni, ac ni chredaf fod hynny'n digwydd. Beth a welwn yng nghwm Aber, er enghraifft? Mae llawer o etholwyr wedi cwyno wrthyf am wasanaethau'n cael eu canslo. A'r hyn y mae gwir angen inni ei weld yw rhyw fath o reolaeth gyhoeddus dros hyn. Nawr, rwyf wedi sylwi bod y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraethiant bysiau a fu'n destun ymgynghoriad yn mynd ymhellach na chynigion y Bil bysiau, felly byddai'n ddiddorol clywed yr ymatebion i'r ymgynghoriad. A wnewch chi roi syniad i ni pryd y byddwch yn eu cyhoeddi? Gwn eich bod wedi dweud y byddwch yn gwneud hynny cyn bo hir, ond a wnewch chi roi syniad clir i ni pryd y byddwch yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad bysiau, a phryd y byddwn yn clywed mwy am gynnydd y Papur Gwyn?