Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 19 Hydref 2022.
Rwy'n ateb y cwestiwn. Y grant cynnal ardrethi sy'n talu am y bobl hynny. Ynte? Mae hwnnw wedi’i dorri gan Lywodraethau Ceidwadol olynol dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynllunwyr yw'r staff ystafell gefn hynny y mae Llywodraethau Ceidwadol mor hoff o'u gwawdio am fod yn wastraffus. Dyma ganlyniad uniongyrchol eich polisïau cyni, gyda mwy i ddod yn ôl pob tebyg. Os credwch fod yna goeden arian hud yma yn Llywodraeth Cymru, rydych yn gwneud camgymeriad mawr. Nid wyf wedi dod o hyd iddi eto; nid yw'n bodoli. Mae eich Llywodraeth yn San Steffan yn gwbl gyfrifol am y diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy’n arwain yn uniongyrchol at y diffyg twf. Mae arnaf ofn fod y glymblaid gwrth-dwf, Janet, ar eich meinciau chi ac yn eich Llywodraeth chi.