Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 19 Hydref 2022.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr. Rydym yn byw gyda gwaddol diwylliant lle roedd mwy o flaenoriaeth i geir nag i bobl, a lluniwyd rhwydwaith priffyrdd cyfan o gwmpas gwneud i geir fynd yn gyflymach, yn hytrach na meddwl sut i annog pobl i gerdded neu feicio. Fel y gŵyr Jenny Rathbone, mae tua 10 y cant o'r holl deithiau o dan un filltir. Nawr, mae'r rhain yn deithiau y gellid eu cerdded neu eu beicio mewn llawer o achosion ond oherwydd arfer, cânt eu gyrru yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, mae gennym her ddiwylliannol, ac yna mae gennym her seilwaith, oherwydd mae pobl yn amharod pan nad ydynt yn teimlo'n ddiogel neu os yw dod allan o'u ceir yn brofiad newydd iddynt.
Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol—un o'r cynghorau mwyaf blaengar yng Nghymru mae'n debyg—ar ddatblygu teithio llesol. Mae ganddo, fel y gwyddoch, rwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i gynhyrchu map bob tair blynedd, yn seiliedig ar ymgynghori â chymunedau, sy'n dangos lle dylai seilwaith y dyfodol fynd. Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno ei fap diweddaraf i ni, ac mae'n dangos bod dull trylwyr wedi ei fabwysiadu i sicrhau bod pob ysgol yn gysylltiedig â'r rhwydwaith teithio llesol arfaethedig. Nawr, bydd rhoi'r rhwydwaith hwnnw ar waith yn cymryd amser. Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd, yn rhannol drwy ei adnoddau ei hun, yn gweithio gydag ysgolion unigol, drwy ymyrraeth swyddogion, i geisio gwneud cynlluniau mwy meddal, y tu hwnt i'r seilwaith caled, i annog newid ymddygiad. Felly, rwy'n credu bod gwaith da iawn yn digwydd yng Nghaerdydd.
Maent wedi bod yn gwneud gwaith ar Strydoedd Saffach hefyd, ac rydym wedi bod yn treialu hyn gyda Sustrans yng Nghasnewydd. Mae arian ar gael yn awr, fel rhan o'r prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i gau strydoedd y tu allan i ysgolion yn ystod amseroedd codi a gollwng. Lle cafodd hynny ei dreialu, mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Mae hwnnw ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru gymryd rhan ynddo. Yn anffodus, ychydig iawn sydd wedi cynnig ceisiadau, ond mae'n agored iddynt wneud hynny'n flynyddol. Rwy'n cyfarfod ag aelodau trafnidiaeth cynghorau yn ystod yr wythnosau nesaf i wthio'r agenda hon yn gyson. Mae'n ymwneud yn rhannol ag adnoddau a gallu swyddogion, ac yn rhannol â diwylliant a pharodrwydd. Ond mae hyn yn hollbwysig fel rhan o'n hagenda i newid dulliau teithio.