Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae'n anodd iawn rhoi diweddariad i chi ar amserlen pob datblygwr am resymau amlwg, Rhys, ond rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall beth yw'r amserlen ar gyfer eu hadeiladau. Rwy'n falch iawn o ddweud bod rhai adeiladau yn cael eu hadfer yn awr ac rwy'n gobeithio ymweld â nifer ohonynt dros yr wythnosau nesaf. Rydym wrth ein bodd fod adeiladau wedi mynd i'r cyfnod adfer gan fod y gwaith arolygu wedi ei gwblhau. Yn ddiweddar ysgrifennais at yr holl gwmnïau rheoli a strwythurau gwahanol berchnogion adeiladau oherwydd mae ceisio darganfod pwy sy'n gyfrifol am beth yn y system yn gymhleth, fel y gwyddoch. Ond rydym newydd ysgrifennu at bob un ohonynt i sicrhau eu bod yn ymwybodol fod angen iddynt roi caniatâd inni fynd i mewn i wneud y gwaith arolygu ymwthiol. Rydym mewn cysylltiad â nifer o drigolion i geisio hwyluso a chyflymu'r gwaith hwnnw.
Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr fod gennym lif priodol o waith ar gyfer y cyfnod adfer fel nad ydym yn cystadlu â'n gilydd am sgiliau, cyflenwadau ac yn y blaen, ac fel nad ydym yn gwthio'r pris i fyny yn anfwriadol, yn amlwg. Ac un o'r rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn yr arolygon yn y ffordd a wnaeth yw er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, oherwydd mae cost arolygon wedi codi yn Lloegr wrth i bobl gwblhau. Felly, rydym bob amser yn gweithio gyda'n cwmnïau adeiladu. Mae Lee Waters a minnau'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r fforwm adeiladu a'r fforwm adeiladwyr tai, felly rydym yn hoffi gweithio gyda hwy i sicrhau bod gennym waith ar y gweill, a bod ein busnesau bach a chanolig yn cael y gwaith lle bo hynny'n briodol, a bod gennym y cymysgedd cywir o sgiliau ac yn y blaen. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r datblygwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb mewn perthynas â thaliadau. Yma yng Nghymru, ni fydd yn rhaid i lesddeiliaid dalu costau cyfreithiol mawr, fel a wnânt o dan y gronfa diogelwch adeiladau, i allu gwneud hynny, oherwydd byddwn yn camu i'r adwy. Ond ni allwn esgus ei bod yn bosibl adfer nifer yr adeiladau sydd gennym mewn mis neu ddau; mae hwn yn brosiect tymor hir. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud y gwaethaf yn gyntaf a sicrhau bod pobl yn gallu byw i mewn, a dyna pam fod gennym y cynllun achub, ac yn y blaen, i gyd-fynd ag ef. Wrth inni ddod yn ymwybodol o'r adeiladau sy'n cael eu hadfer, byddaf yn rhannu cymaint ag y gallaf gyda'r Aelodau, am resymau cyfrinachedd masnachol ym mhroses y cytundeb, ynglŷn â ble mae hynny'n digwydd. Lywydd, mae'n debyg y byddaf yn gwneud hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig wrth i'r wybodaeth honno ddod ar gael.