9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 5:45, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r materion hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau, megis drwy gynyddu gorbenion, ond mae iddynt effeithiau anuniongyrchol hefyd, a gwyddom y bydd yr argyfwng costau byw a chwyddiant yn lleihau pwerau gwariant dewisol, sy’n golygu bod busnesau’n wynebu ergyd arall i'w ffrydiau incwm. Mae llawer wedi ceisio amsugno'r pwysau ar brisiau dros yr ychydig fisoedd diwethaf eisoes, ond yn amlwg, nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Gwyddom fod busnesau a pherchnogion busnesau'n wirioneddol bryderus.

Croesawaf y mesurau amrywiol sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chefnogi busnesau. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, a roddodd gymorth sylweddol i fusnesau yn ystod y pandemig, yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, fel y'i nodwyd ar yr agenda, hefyd yn rhestru’r cymorth y mae hi’n ei roi i fusnesau ledled Cymru, sy'n rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei groesawu’n fawr, wrth gwrs.

Ond mae angen mwy o gymorth. Rydym mewn argyfwng costau gwneud busnes yn ogystal ag argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a dyna pam na fydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Oherwydd pe bai’r gost o wneud busnes yn gostwng, ni fyddai angen cymorth mor sylweddol arnynt i leddfu baich ardrethi busnes. Ac yn anffodus, nid yw gwelliant y Llywodraeth yn cyfleu’r angen i ailystyried trethiant busnes i sicrhau nad yw’n rhwystr atchweliadol i ddyheadau a thwf busnes.

Fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae busnesau’n poeni y bydd gwneud gwelliannau i’w hadeiladau—gan gynnwys ymdrechion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, er enghraifft—yn achosi i werth ardrethol eu heiddo godi, gan olygu y byddent yn cael eu gorfodi i dalu mwy am eu bod am ehangu eu busnes neu wella eu rhagolygon, neu yn achos gwelliannau ynni, lleihau eu gorbenion a helpu'r amgylchedd. Mewn gwirionedd, mae’r ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio yn golygu bod cwmnïau’n cael eu gorfodi i dalu treth cyn iddynt gael unrhyw incwm hyd yn oed, heb sôn am wneud unrhyw elw. Ychwanegwch y ffaith bod ardrethi yng Nghymru yn gymharol uchel o gymharu â gwledydd eraill—Cymru sydd â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd—a gallwch weld pam fod y sector yn galw am ailystyried y ffordd yr ydym yn trethu ffyniant.

Lywydd, nid wyf yn mynd i esgus fod gennyf yr holl atebion, nac yn wir y bydd y ddadl hon yn datrys y mater; mae’n sefyllfa gymhleth ac mae’n mynd i gymryd amser i weithio gyda busnesau i gael y cydbwysedd cywir rhwng cefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy drethiant a thwf economaidd.

Nodaf yr awgrym o dreth gwerth tir, fel y mae Plaid Cymru yn dadlau o'i phlaid yn eu gwelliant hwy. Fodd bynnag, yn anffodus, ni fyddwn ni ar yr ochr hon yn gallu cefnogi’r gwelliant hwnnw ychwaith fel y saif pethau. Er fy mod yn cydnabod bod gan ddiwygio o’r fath rai manteision o gymharu â’r system bresennol, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynghylch yr effeithiau y gallai diwygiadau mor eang â’r hyn a gynigir eu cael, fel y bydd yr holl Aelodau'n cytuno, rwy'n siŵr. Er enghraifft, mae llawer o fusnesau bach ar hyn o bryd yng nghanol trefi a dinasoedd lle mae gwerth tir yn ddrud. A allai diwygiadau o’r fath eu gyrru oddi ar ein stryd fawr, lle mae taer angen eu presenoldeb? Mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: beth y byddem yn dymuno'i weld: canol trefi bywiog, neu rywbeth arall? A fyddai treth gwerth tir yn annog pobl i sefydlu mwy o fusnesau ar-lein yn hytrach na chael presenoldeb ffisegol er mwyn osgoi talu’r dreth hon? Sut, felly, y byddem yn sicrhau bod busnesau ar-lein yn cael eu trethu’n deg, ac yn cael eu trin yn gyfartal â’r rheini sydd ag eiddo ffisegol? Ond edrychaf ymlaen at glywed gan feinciau Plaid Cymru sut y gallai treth o’r fath weithio’n ymarferol, a sicrhau y byddai’r pot o arian sy'n cael ei godi ar hyn o bryd drwy ardrethi annomestig yn aros yr un fath, gan fod yn decach i fusnesau ar yr un pryd.

Fodd bynnag, mae pethau y gellid eu cyflwyno dros y misoedd nesaf i helpu busnesau i oroesi wrth i ddiwygiadau ehangach gael eu hystyried. Er enghraifft, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw am ailgyflwyno seibiant ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch tra bo'r hinsawdd economaidd ansicr yn parhau. Fan lleiaf, gellid ystyried ymestyn y cynllun rhyddhad presennol o 50 y cant y tu hwnt i’w oes bresennol yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan fod busnesau ar hyn o bryd yn ofni’r dibyn sydd o'u blaenau. Neu gallai’r Llywodraeth barhau i rewi'r lluosydd, fel y gall busnesau o leiaf gynllunio gyda rhyw fath o sicrwydd. Byddwn hefyd yn dadlau y gallem edrych ar hollti’r lluosydd, yn debyg iawn i’r hyn a welwn mewn rhannau eraill o’r DU, fel nad yw busnesau bach yn cael eu trin yn yr un modd â busnesau mawr, a byddai hynny’n annog twf. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd wedi nodi pwyntiau dilys iawn, megis lleihau cost apeliadau i fusnesau a sicrhau bod pob busnes yn ymwybodol o’r cynlluniau cymorth amrywiol sydd eisoes yn bodoli.

Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod y pethau hyn yn costio arian, ac rwy’n ymwybodol nad oes cronfa ddiderfyn o arian i Lywodraeth Cymru ei defnyddio, ond serch hynny, mae ganddi’r dulliau sydd eu hangen i ddarparu cymorth i fusnesau drwy'r cyfnod hwn, fel y mae wedi'i wneud o'r blaen. Gallwn ddefnyddio adnoddau presennol yn well i ddarparu cymorth sydd nid yn unig yn lleihau baich ardrethi busnes, ond sy’n helpu busnesau i dyfu, gan leihau’r ddibyniaeth ar gymorth ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth i dalu’r ardrethi.

Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau o bob rhan o’r Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddefnyddio’r ddadl hon i drafod yn adeiladol sut y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn y ffordd orau, nid yn unig drwy’r cyfnod anodd hwn, ond y tu hwnt, felly gallwn helpu i adeiladu economi gryfach, fwy llewyrchus i bawb. I grynhoi, Lywydd, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig gwreiddiol ac i wrthwynebu gwelliannau 1 a 2. Diolch.