Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r system cyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd, gan godi mwy na £1.1 biliwn yn flynyddol, ac nid yw hwn yn gyfraniad bach at y cyllid sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac nid yw'n gyfraniad bach i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn wir. Ond mae'n rhaid cofio bod pob ceiniog yn mynd yn ôl i gefnogi awdurdodau lleol a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu. Rwy'n cydnabod bod sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn eu defnyddio, a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan dalwyr ardrethi, yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni. Ond rwy'n herio'r rhai a hoffai ein gweld yn mynd gam ymhellach nag a wnawn eisoes—ac rydym eisoes yn darparu llawer iawn o gefnogaeth—i ddweud pa rai o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny y byddech chi eisiau eu gweld yn cael eu torri neu eu lleihau er mwyn darparu'r gefnogaeth ychwanegol honno, oherwydd dyna yw'r dewis gonest yr ydym yn ei wynebu pan fyddwn yn cael y sgyrsiau hyn. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon i ddweud y dylem ddefnyddio adnoddau presennol yn well, oherwydd nid yw hynny'n cyfleu anferthedd yr hyn sy'n cael ei ofyn. Mae'r rhain yn sgyrsiau agored y dylem eu cael ynglŷn â blaenoriaethau, ac rwy'n agored i gael y sgyrsiau hynny.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi capio'r cynnydd yn y lluosydd. Rhwng 2018-19 a 2020-21, rydym wedi defnyddio'r mesur chwyddiant is, y mynegai prisiau defnyddwyr, i gymedroli codiadau blynyddol yn y lluosydd. Gwn fod hynny wedi cael croeso cynnes gan gynrychiolwyr diwydiant. Ers hynny, rydym hefyd wedi rhewi'r lluosydd yn 2021-22 a 2022-23, ac mae hynny'n cydnabod effaith estynedig y pandemig coronafeirws ar fusnesau a thalwyr ardrethi eraill, a gadewch inni gofio bod hynny wedi arbed bron i £200 miliwn i dalwyr ardrethi ar eu biliau ardrethi yng Nghymru ers 2018-19, o'i gymharu â'r refeniw y byddem yn ei godi pe baem wedi cynyddu'r lluosydd yn flynyddol gyda'r mesur chwyddiant uwch, y mynegai prisiau manwerthu.
Mae'r lluosydd yn un ffactor sy'n pennu biliau talwyr ardrethi, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall, wrth gwrs, yw gwerth ardrethol yr eiddo. Mae gan ein sylfaen drethu yng Nghymru werth ardrethol o tua £19,000 ar gyfartaledd, ac mae hynny, yn amlwg, yn wahanol iawn i'r hyn a geir yn Lloegr, sydd â chyfartaledd llawer uwch o tua £32,000. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i gyfartaledd yr hyn a delir gan dalwyr ardrethi. Cymhwysir rhyddhad wedyn i'r biliau sy'n lleihau neu'n dileu'r taliad i fwyafrif y talwyr ardrethi yng Nghymru, felly mae'n rhaid imi ddweud, o ganlyniad i'r gwahaniaethau rhwng ein sylfeini trethu a'n cynlluniau rhyddhad a ariennir yn llawn, fod biliau cyfartalog yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydynt yn Lloegr.
Rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Mae ein cynlluniau rhyddhad parhaol yn golygu nad yw 44 y cant o'r sylfaen drethu yn talu unrhyw ardrethi domestig o gwbl, ni waeth beth fo lefel y lluosydd. Eleni, rydym yn darparu £116 miliwn o ryddhad ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Er mwyn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael digon o gefnogaeth, ac er mwyn adlewyrchu natur ein sylfaen drethu, rydym wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol at y cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU at y diben hwn, gan arddangos, unwaith eto, y sylfaen drethu wahanol sydd gennym yma yng Nghymru. Ond o ganlyniad i'n cynlluniau rhyddhad parhaol a'r cymorth ychwanegol hwn, rydym yn gwario dros £350 miliwn eleni i ddarparu cymorth llawn neu rannol gyda'u biliau ardrethi i 70 y cant o safleoedd yng Nghymru.
Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021. Mae hyn yn golygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethu ers yr ailbrisiad diwethaf. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi fersiwn ddrafft o restr ardrethi newydd cyn diwedd eleni, a byddwn yn asesu effaith ailbrisio ar ein sylfaen drethu.
Ond mae'n iawn fod ein system ardrethi annomestig yn adlewyrchu natur unigryw'r sylfaen drethu yma yng Nghymru. Ar 29 Mawrth, nodais raglen ar gyfer diwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflwyno dros y pedair blynedd nesaf. Ers hynny rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar amrywiaeth o ddiwygiadau, gan gynnwys ailbrisiadau mwy mynych ac ystod o fesurau i helpu Llywodraeth Cymru i addasu'r system i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol, ac wrth gwrs, mae apeliadau hefyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw.
Mae ein cynlluniau'n cynnwys archwilio ymhellach y posibilrwydd o gyflwyno treth gwerth tir leol yn lle ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Byddai disodli'r trethi lleol presennol yn orchwyl fawr a fyddai'n galw am fuddsoddiad sylweddol, ac mae'n hanfodol fod gennym ddealltwriaeth drylwyr o'r costau a'r effeithiau. Rwyf wedi nodi fy mwriad i gynhyrchu map ffordd posibl ar gyfer y gwaith hwn tuag at ddiwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn yn falch o glywed y cyfeiriad at yr asesiad technegol o’r potensial ar gyfer treth gwerth tir leol yng Nghymru gan Brifysgol Bangor. Roedd hwnnw'n waith a gomisiynwyd gennym yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n nodi, fel y clywsom, fod yna amryw o gwestiynau sydd eto i'w hateb, a bod llawer o waith i'w wneud o hyd yn y maes penodol hwn. Ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo i barhau i fynd ar ei drywydd a'i archwilio.
Ar fater gwerthiannau digidol, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwn, ond hoffwn roi sicrwydd i gyd-Aelodau fod fy swyddogion yn ymgysylltu â'u swyddogion cyfatebol ar y mater penodol hwn.
Felly, er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.