9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:52, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am agor y ddadl, er fy mod yn credu na ddylai dadl heddiw fod ynglŷn â pha ran o’r DU sydd â’r lefel ardrethi busnes uchaf neu isaf? Rwy'n credu, ac rydych chi'n cydnabod, fod angen iddi fod yn drafodaeth ehangach, fwy soffistigedig ynghylch, yn y lle cyntaf, ai’r system ardrethi busnes ei hun yw’r dull gorau, ac a oes ffordd decach a mwy effeithiol o'i wneud. Mae ein gwelliant yn awgrymu bod gennym farn benodol ar hynny.

Ond mae'n fater gwirioneddol bwysig, sydd wedi'i godi'n gwbl briodol, gan mai ardrethi busnes yw un o'r costau mwyaf i fusnesau yng Nghymru. Cânt eu crybwyll yn rheolaidd fel un o’r beichiau trymaf y mae llawer o’n busnesau'n eu hwynebu. Ond wrth gwrs, maent hefyd, ar yr un pryd, yn ffrwd incwm bwysig i awdurdodau lleol, fel sydd wedi'i gydnabod. Felly, mae angen taro cydbwysedd yn hyn o beth ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y system a ddefnyddiwn yn deg ac yn flaengar, ond hefyd yn casglu’r refeniw angenrheidiol sydd mor bwysig i gyllid cyhoeddus.

Rwy’n arbennig o ymwybodol yma, wrth gwrs, o fuddiannau busnesau bach a chanolig eu maint o fewn yr hafaliad cyfan. Gŵyr pob un ohonom fod amryw gynlluniau rhyddhad wedi eu crybwyll, a gwnaed llawer i ddarparu cymorth i’r busnesau sydd wedi'i chael hi'n anodd oherwydd effeithiau amrywiol Brexit, y pandemig, a bellach, yn ddiweddar, yr argyfwng chwyddiant. Ond gwyddom hefyd nad yw pawb wedi cael mynediad at y cymorth y teimlent fod ei angen arnynt, a bydd llawer ohonom wedi ymdrin â gwaith achos yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau lle roedd pobl yn cwympo drwy'r bylchau hynny. Ac ni waeth a gawsant gymorth ai peidio, mae llawer o fusnesau bellach, fel y gwyddom, yn gorfod dewis rhwng gorfod ymdopi â chostau ychwanegol, ac a ydych yn cynyddu eich prisiau neu'n ceisio parhau i fod yn gystadleuol, ac mae’n her aruthrol i lawer o'n busnesau. Felly, nid yn unig fod chwyddiant cynyddol, y costau ynni, prinder staff, ad-daliadau dyledion i lawer o fusnesau, nid yn unig fod cost economaidd ynghlwm wrth hynny i gyd, ond mae cost ddynol hefyd, onid oes, yn sgil y straen a'r pwysau ar yr unigolion sy'n ceisio cael deupen llinyn ynghyd. Ond rhwng popeth, nid yw'r darlun yn edrych yn gynaliadwy iawn fel y saif pethau.

Felly, dylem gael polisi treth sydd nid yn unig yn deg, ond sydd hefyd yn cymell entrepreneuriaid yma yng Nghymru yn y ffyrdd cywir. Gwyddom hefyd fod ardrethi busnes yn cael eu hystyried yn annheg ac yn atchweliadol i raddau helaeth, ac mae’r Gweinidog, a bod yn deg, wedi dweud o’r blaen ei bod am symud tuag at greu Cymru decach a’i bod wedi ymrwymo i archwilio treth gwerth tir, gyda gwaith amrywiol yn mynd rhagddo ar hynny. Felly, byddai’n dda, yn eich ymateb i’r ddadl hon heddiw, Weinidog, pe baech yn egluro ble rydych chi arni ar hyn o bryd gyda llawer o’r gwaith hwn, ac efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am amserlenni ac ailadrodd eich ymrwymiad, gobeithio, i archwilio a datblygu opsiynau ynghylch y dreth gwerth tir.

Rydym wedi gweld ymchwil, wrth gwrs, gan Brifysgol Bangor sy'n dangos y gall treth gwerth tir fod yn system decach, a chan fod y diwygiadau arfaethedig a nodwyd gennych yn flaenorol i fod i ddigwydd dros gyfnod o bedair blynedd, os cofiaf yn iawn, rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd rheolaidd inni graffu ar gynnydd yn y lle hwn, i sicrhau bod llais busnesau, awdurdodau lleol ac eraill, wrth gwrs, yn ganolog i’r holl broses honno. I mi, mae treth gwerth tir yn cynnig tegwch ac effeithlonrwydd. Mae'n eithaf syml i'w chasglu, byddwn yn dychmygu; mae'n anodd iawn osgoi talu treth gwerth tir—ni allwch ei chuddio mewn cyfrifon alltraeth fel y gallwch gyda phethau eraill yn aml iawn. Gall fod yn ddatgymhelliad cryf i hap-berchnogaeth, oherwydd yn amlwg, byddai tirfeddianwyr sy'n crynhoi tir o ansawdd uchel at y diben hwnnw'n wynebu bil mwy. Ac rwy'n gobeithio, wedyn, y byddai hynny'n helpu i wastatáu'r cylchoedd o ffyniant a methiant, gan wneud eiddo, o bosibl, yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc.

Yn ogystal, gallai treth gwerth tir annog datblygu, gan y byddai gan bobl gymhelliant i ddefnyddio tir segur a thir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol at ddefnydd mwy cynhyrchiol. Er bod y rhan fwyaf o drethi'n dueddol o annog pobl i beidio â buddsoddi, neu'n ymyrryd mewn marchnadoedd, nid yw trethi gwerth tir yn ystumio gweithgarwch economaidd; yn hytrach, maent yn helpu i gynyddu sefydlogrwydd a thwf hirdymor—dyn a ŵyr, mae angen ychydig o hynny arnom y dyddiau hyn—drwy feithrin defnydd mwy cynhyrchiol o gyfalaf. Ac wrth gwrs, yn hollbwysig, mae'n helpu cyllid y Llywodraeth drwy ddod â refeniw i mewn yn effeithlon ac yn gyflym.

Daeth asesiad Prifysgol Bangor i’r casgliad fod gwerth tir yng Nghymru yn darparu sylfaen drethu ddigon mawr i sicrhau y gallai treth gwerth tir godi refeniw sy’n cyfateb i’r hynny a godir gan y drefn dreth leol bresennol yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae llawer o waith i’w wneud. Mae nifer o gwestiynau a nifer o heriau y mae angen mynd i'r afael â hwy, a chyfeiriwyd at lawer ohonynt yn gynharach. Ond wrth gwrs, nid ydym yn argymell rhuthro i mewn i hyn, ond o'i wneud yn iawn, rwy'n credu y byddai'n system decach a mwy cyfartal.

Mae'n un sydd wedi dod i amlygrwydd gwleidyddol yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf, gydag ymrwymiadau gan Lafur, gan y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion, Plaid Cymru yma yn cynnig hyn yn ein gwelliant. Mae mwy na 30 o wledydd wedi mabwysiadu gwahanol fathau o dreth gwerth tir, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Kenya, Taiwan, Singapore, Denmarc, a rhai o daleithiau'r UDA hefyd. Felly, wrth gynnig gwelliant Plaid Cymru heddiw, gofynnaf i Aelodau’r Senedd gefnogi datganiad clir fod Cymru'n dymuno bod nesaf.