Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 19 Hydref 2022.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Fel cyn-gynghorydd sir, ond heb gyrraedd uchelfannau statws arweinydd cyngor fel fy nau gyd-Aelod parchus sy'n eistedd bob ochr i mi, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y refeniw y mae ardrethi busnes yn ei godi i awdurdodau lleol, ond rwy'n ymwybodol hefyd o annigonolrwydd y fformiwla gyllido bresennol a'r tro gwael a wneir â llawer o gynghorau drwy setliadau cyllidebol a dosbarthiad cyllid. Oherwydd hyn, rwy'n falch o'r cyfle i gyfrannu.
Nid oedd yn syndod mawr mewn gwirionedd mai busnesau yng Nghymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, gyda busnesau Cymru'n talu hyd at 4.5 y cant yn fwy na busnesau eraill ar draws Prydain. Mae'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain i godi un ardreth safonol ar bawb, beth bynnag fo maint y busnes neu'r trosiant, yn ymddangos yn rhyfedd ac yn anystyriol o'r busnesau yma yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Fynwy, mewn modd mor huawdl wrth agor y ddadl, mae busnesau yng Nghymru yn hanfodol i'n ffyniant economaidd. Mae hyn yr un mor wir am fasnachwyr bach annibynnol ag ydyw am gwmnïau rhyngwladol mwy o faint, sydd fel ei gilydd yn chwarae rhan bwysig ar ein strydoedd mawr. Felly, er bod y sector wedi wynebu ansicrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wneud popeth yn ei gallu, gyda'r dulliau sydd ar gael iddi, i liniaru peth o'r pwysau a helpu busnesau i ganfod llwybr yn ôl at dwf a ffyniant.
Mae'n debyg y byddai llawer ohonom yn y Siambr heddiw yn ymffrostio'n falch am stryd fawr yn eu hetholaeth sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol ac sy'n gweithredu fel esiampl o sut yr hoffem i strydoedd mawr ledled Cymru edrych. I mi, Arberth sy'n gwneud hynny, ac nid yn unig am fod fy swyddfa i ar y stryd fawr, ond rwy'n siŵr ei fod yn ffactor sy'n cyfrannu—stryd fawr sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol, bwytai o safon uchel a busnesau teuluol yn denu cwsmeriaid i mewn i'r dref. Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at drefi eraill ar draws Cymru a'r enghreifftiau cadarnhaol sydd ganddynt hwy yn eu hetholaethau, ond am bob stori lwyddiant, mae gennym hefyd ardaloedd lle mae busnesau wedi cael eu prisio allan o ganol y dref. Yn anffodus, mae trefi hanesyddol Doc Penfro yn sir Benfro neu Hendy-gwyn ar Daf yn sir Gaerfyrddin yn enghreifftiau lle mae busnesau, dros y genhedlaeth ddiwethaf, wedi cau a lle mae siopau'n wag. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yw'r drefn ardrethi busnes anhyblyg y mae'n rhaid iddynt weithredu oddi tani. Elwodd trefi fel Arberth yn fawr o gynlluniau rhyddhad ardrethi gwledig blaenorol, a wnaeth lawer i sefydlu'r dref fel cyrchfan siopa i ymwelwyr a phobl leol. Rwy'n deall bod cynlluniau o'r fath yn parhau yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol unigol, ond hoffwn wybod, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru'n annog eu cydweithwyr mewn llywodraeth leol i wneud defnydd o'r dulliau sy'n parhau i fod ar gael iddynt.
Ymhell cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn, galwodd fy nghyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr am i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio o ardrethi busnes yn gyfan gwbl, ac i fusnesau sy'n werth o dan £18,000 i dalu ardreth sy'n cynyddu'n raddol i'r swm llawn hwnnw. Byddai hyn yn golygu bod modd ailfuddsoddi mwy o arian mewn busnesau bach, yn enwedig yn eu blynyddoedd cyntaf o weithgarwch. Os nad yw ein polisi yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, a gaf fi annog y Gweinidog i roi ystyriaeth i awgrym a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch pryd y dylai busnesau newydd ddechrau talu ardrethi busnes? Yn hytrach na rhoi bil ardrethi i fusnes newydd o'r diwrnod cyntaf, a fyddai'n werth archwilio'r opsiwn o wyliau ardrethi ar gyfer, dyweder, y 12, 18 neu 24 mis cyntaf o weithgarwch? Byddai hyn yn galluogi mwy o fusnesau newydd, yn cynyddu'r gobaith o oroesi'n hirdymor ac yn cynyddu nifer y safleoedd a feddiennir a'r cyfleoedd gwaith a gaiff eu creu.
Weinidog, mae'n amlwg nad oes gan neb yr atebion i gyd i'r broblem hon. Fodd bynnag, ceir amryw o atebion a all fynd rhywfaint o'r ffordd i oresgyn rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n annog y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw a dangos i fusnesau yng Nghymru fod Llywodraeth Cymru ar eu hochr hwy mewn gwirionedd. Diolch, Lywydd.