11. Dadl Fer: Byw gyda chanser yng Nghymru: Gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 6:30, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae effeithiau hirdymor yn effeithio ar iechyd corfforol a seicolegol. Rhai o'r effeithiau yw blinder, problemau symudedd, poen, bod yn brin o anadl, diffyg maeth, iselder a gorbryder. Ceir hefyd yr effeithiau hwyr i ymgodymu â hwy. Diffinnir effeithiau hwyr fel problemau iechyd corfforol neu seicolegol sydd i'w gweld chwe mis neu fwy ar ôl triniaeth a gallant effeithio ar systemau organau cyfan o ganlyniad i driniaethau canser. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwenwyndra cardiofasgwlaidd, llai o ddwysedd esgyrn neu isthyroidedd. Prin yw'r dystiolaeth ynghylch faint o bobl yr effeithir arnynt gan ganlyniadau canser parhaol o'r fath, er i Cymorth Canser Macmillan amcangyfrif yn 2013 fod tua hanner miliwn o bobl ledled y DU wedi cael problemau iechyd ar ôl triniaeth. Disgwylir bod y nifer wedi codi'n helaeth dros y degawd diwethaf.

Yn 2015, bu Cymorth Canser Macmillan yn cyfweld pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser mewn astudiaeth ledled y DU i'w hanghenion gofal cymdeithasol ac emosiynol, a gwelodd fod gan 64 y cant o'r ymatebwyr anghenion cymorth ymarferol a bod 78 y cant arall o'r ymatebwyr angen cefnogaeth emosiynol yn dilyn diagnosis. Mae astudiaethau wedi profi'r effaith y gall rhagsefydlu ac adsefydlu ei chael ar y rhai sy'n byw gyda chanser.

Datblygwyd y cysyniad o adsefydlu canser yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1960au, ond mae'r byd wedi bod yn araf i'w fabwysiadu. Canfu astudiaeth o Ddenmarc a gynhaliwyd yn y 2000au cynnar—prosiect ymchwil FOCARE—fod goroeswyr canser Danaidd wedi profi iechyd corfforol sylweddol waeth, o bosibl fel effeithiau corfforol hwyr yn sgil triniaeth. Mae'r problemau a nodwyd gan bobl a oedd wedi goroesi canser yn awgrymu y dylai adsefydlu canser gynnwys yr agweddau hyn ar fyw ar ôl canser ac ystyried gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol ymhlith goroeswyr canser. Awgrymai'r astudiaeth mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r heriau hyn oedd mewn rhaglenni adsefydlu amlddimensiwn.

Mae gwasanaethau adsefydlu canser yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n cyflawni rolau penodol ar hyd y llwybr, megis deietegwyr, ymarferwyr lymffoedema, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a therapyddion lleferydd ac iaith. Maent yn darparu ymyriadau arbenigol sy'n ategu sgiliau aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol. Bydd gan wahanol gleifion anghenion adsefydlu gwahanol yn dibynnu ar fath a lleoliad eu canser, ac ar ba gam y mae. Cydnabyddir y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, yn cynnwys gweithwyr cymorth, gyfrannu at adsefydlu pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser. Mae rhagsefydlu'n ymestyn y gofal hwnnw hyd at ddechrau'r llwybr triniaeth.

Mae gweithgarwch corfforol wedi'i ddisgrifio fel 'cyffur rhyfeddol' nad yw wedi cael ei werthfawrogi ddigon a dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chanser yn ymwybodol o'i fanteision. Cafodd gwasanaeth Symud Mwy Macmillan ei ddatblygu i helpu pobl â chanser i fod yn fwy egnïol. Mae gwerthuso wedi dangos bod ganddo'r potensial i gefnogi pobl sydd ag ystod o gyflyrau hirdymor ac i arwain at newid ymddygiad. Gellir defnyddio'r dystiolaeth a'r mewnwelediad hwn yn awr i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn cael ei ystyried yn rhan annatod o ofal canser. Mae bod yn egnïol cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth yn ddiogel. Gall leihau blinder, lleihau gorbryder ac iselder, eich helpu i gadw at bwysau iach, cryfhau eich cyhyrau, gwella iechyd esgyrn, gwella eich ystwythder a'ch gallu i ymestyn eich cyhyrau, gwella cydbwysedd, a chynyddu eich hyder. Cafodd y dystiolaeth hon ei rhoi ar waith yn helaeth yn fy etholaeth gan Dr Rhidian Jones, a aeth ati, gyda'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, i lunio rhaglen ragsefydlu ar gyfer cleifion canser yng Nghwm Taf. I ddyfynnu Rhidian,

'Rydym yn gwybod, pan fo claf yn cael diagnosis o ganser y coluddyn neu ganser yr oesoffagws, ei fod yn gyfnod hynod frawychus cyn cael llawdriniaeth fawr. Mae llawer o'r cleifion hyn heb lawer o ffitrwydd corfforol ac yn bryderus iawn wrth aros am eu llawdriniaeth; gall y ddau beth arwain at ganlyniadau gwael ar ôl llawdriniaeth. Nod y rhaglen yw gwella ffitrwydd, iechyd meddwl a phrofiad cleifion cyn eu llawdriniaeth. O ganlyniad i'r nodau cychwynnol hyn, gwelwn lai o gymhlethdodau ar ôl llawdriniaethau a thuedd tuag at arosiadau byrrach i'n cleifion yn yr ysbyty.'

Mae rhaglen Rhidian yn cael effaith ddramatig ar gyfleoedd hirdymor cleifion. Ynghyd â rhaglen adsefydlu helaeth ar gyfer canser, gallwn sicrhau nad goroesi canser yn unig y mae cleifion yng Nghymru, nid byw gyda chanser yn unig, ond byw'n dda gyda chanser. Rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i ni. Dyna pam fy mod am weld rhaglenni fel un Rhidian ar gael i bob claf canser yng Nghymru, a pham y mae'n rhaid inni gael rhaglenni adsefydlu canser helaeth wedi'u teilwra ar gyfer anghenion cleifion unigol.

Rhaid imi longyfarch Llywodraeth Cymru. Maent wedi mabwysiadu safbwynt cadarnhaol ar wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu. Yng Nghymru, crybwyllir optimeiddio iechyd cyn triniaethau a rhagsefydlu yn glir yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer canser 2016-20. Mae'n rhoi Cymru ar y blaen i wledydd eraill y DU. Deallaf gan Macmillan fod trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch darparu a chyllido rhagsefydlu cynaliadwy hirdymor. Mae Macmillan wedi cynhyrchu eu fframwaith gofal sylfaenol ar gyfer canser. Mae'r fframwaith hwn yn pontio o'r ymgynghoriad cychwynnol, atgyfeirio ac ymlaen i ddiagnosis a thriniaeth a thu hwnt. Mae optimeiddio iechyd cyn triniaeth mewn gofal sylfaenol ar y pwynt atgyfeirio at archwiliad canser yn elfen allweddol yn y fframwaith hwn.

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r fframwaith pan fydd yn lansio eu cynllun gweithredu gwasanaethau canser, sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, er bod y datganiad ansawdd ar gyfer canser yn dweud bod rhagsefydlu ac adsefydlu yn rhannau allweddol o'r llwybr canser, nid yw hyn yn fy llenwi â gobaith y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu ar lawr gwlad. Er gwaethaf ymrwymiadau yn y cynllun cyflawni blaenorol ar gyfer canser i wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu, nid oedd profiad y claf ar lawr gwlad yn adlewyrchu'r cynlluniau. Mae mynediad at ragsefydlu wedi parhau'n loteri cod post gyda dros draean y cleifion yn dweud na chawsant gymorth ôl-driniaeth o gwbl.

Canfu astudiaeth yn 2020, 'Qualitative exploration of cancer rehabilitation in South Wales', nad yw adsefydlu yn elfen reolaidd o fewn y llwybr canser. Dywedodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod nifer o rwystrau i ddarparu gofal. Un o'r prif rwystrau yw nad yw adsefydlu canser yn cael ei ddarparu'n rheolaidd o fewn y llwybr canser. O ystyried pwysigrwydd gwasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu i gleifion canser, rwy'n annog y Gweinidog i ymrwymo y prynhawn yma i sicrhau bod gwasanaethau o'r fath ar gael ac wedi'u teilwra ar gyfer pob claf canser yng Nghymru. Diolch.