Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 19 Hydref 2022.
Rydym mewn trafodaethau cychwynnol gyda Gweinidog presennol Llywodraeth y DU i ddeall cynigion y parthau buddsoddi a'r goblygiadau posibl i Gymru mewn mwy o fanylder. Byddai angen i unrhyw fenter i Gymru gyd-fynd â'n polisïau ar waith teg a'r amgylchedd, er enghraifft, yn ogystal â chynhyrchu twf gwirioneddol ychwanegol, yn hytrach na dim ond symud gweithgarwch busnes.