Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae gan ein treftadaeth grefyddol le pwysig ynghanol ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid a chefnogaeth i brosiectau treftadaeth ffydd mewn amryw o ffyrdd. Rydym yn mynd ati i gynorthwyo adeiladau a sefydliadau yn y sector hwn i warchod a hyrwyddo'r agwedd hon ar ein hanes cyffredin.