Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch, Weinidog. Mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn hanfodol i'r economi, gan gynhyrchu dros £5 biliwn a bron i 50,000 o swyddi. Hoffwn dynnu sylw at rai pryderon a godwyd ynglŷn â'r strategaeth ddrafft. Yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol STEM fis diwethaf, awgrymwyd nad yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu clustnodi unrhyw arian newydd ar gyfer y strategaeth, gydag argymhellion adolygiad Reid wedi'u diystyru ac nad yw gwyddoniaeth yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn nodi bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod yr angen yn awr i Gymru ennill mwy o gyllid Ymchwil ac Arloesi'r DU, UKRI, i wneud iawn am golli cronfeydd strwythurol, ond nid yw'n cynnwys mesurau ymarferol i helpu ymgeiswyr o Gymru i ennill mwy o arian, gyda'u glasbrint ymchwil a datblygu yn nodi nad yw cyllid sy'n gysylltiedig ag ansawdd wedi dal i fyny â chwyddiant ers degawd. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cyfeirio at y diffyg presennol o £18 miliwn ar gyfer cyllid ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion, sy'n cyfyngu'n sylweddol ar eu gallu i wneud cais am ffrydiau ariannu ar gyfer y DU, gan lesteirio gallu Cymru i ganiatáu i ymchwil sbarduno economi ffyniannus. Ac yn ôl Prifysgol Caerdydd, ceir diffyg blaenoriaethau penodol ac ymrwymiadau ariannol hanfodol yn y drafft presennol. Weinidog, a ydych yn cytuno y dylai strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sicrhau bod Cymru'n gallu cael adnoddau ychwanegol er budd arloesi yng Nghymru, megis cyllid UKRI a chyllid elusennol ar gyfer ymchwil feddygol? A sut y bydd hyn yn digwydd heb gynnydd i gyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd? Diolch.