Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch, Weinidog. Mae hynny'n gysur mawr i'w glywed. Rwy'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â stori Canolfan Hamdden Plas Madoc yn fy etholaeth a'r gwaith anhygoel a wnaed gan wirfoddolwyr i'w gadw'n agored doed a ddelo. Ond maent yn wynebu rhwystrau enfawr y gaeaf hwn, yn rhannol o ganlyniad i Brexit, gyda chostau cemegol yn codi i'r entrychion a heriau cludiant, ond hefyd oherwydd cynnydd ym mhrisiau ynni ac maent yn amcangyfrif y gallai eu bil ynni fwy na dyblu. Weinidog, beth yn union y credwch y gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi'r pyllau nofio cyhoeddus hanfodol sy'n gwneud cymaint o les i iechyd y cyhoedd?