2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gweithlu a'r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru? OQ58583
Rwyf wedi nodi camau o fewn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i helpu pawb, yn enwedig y rhai pellaf o'r farchnad lafur, i lywio ac ymateb i unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y gallent fod yn eu hwynebu, boed hynny drwy hyfforddiant, uwchsgilio neu newid gyrfaoedd.
Diolch, Weinidog. Mae busnesau ac asiantaethau yn cael trafferth recriwtio yn sgil gadael yr UE, cymhlethdodau fisa a'r pandemig. Roedd y slogan 'Stop immigration now' yn gyrru llawer o rethreg Brexit, heb unrhyw gydnabyddiaeth o'r cyfraniadau enfawr y mae'r rhai sy'n symud yma yn eu gwneud yma yn y DU. Fe achosodd y pandemig i bobl dros 50 ailfeddwl eu ffordd o fyw, ac i beidio â bod eisiau gweithio'r oriau hir sydd bellach wedi'u normaleiddio a'r shifftiau ofnadwy sy'n ddisgwyliedig. Mae cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn enbyd, ac ni all busnesau preifat lenwi'r bwlch a fyddai'n cael ei adael ar ôl gan y sector cyhoeddus mwyach. Weinidog, beth a wnewch i annog pobl yn eu 50au i ddychwelyd i fyd gwaith, i hyrwyddo recriwtio i'r sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, ac i ddweud wrth Weinidogion y DU bod croeso i bobl o wledydd eraill ddod yma i weithio? Diolch.
Diolch am y cwestiynau. Rydym yn sicr yn ceisio gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl sy'n anweithgar yn economaidd, yn enwedig pobl dros 50 oed. Yn arbennig o amlwg ar ddiwedd y pandemig a wedyn, gwelsom nifer o bobl yn gwneud dewisiadau, a rhai o'r rheini'n ddewisiadau bwriadol ynghylch eu hawydd i sicrhau cydbwysedd gwahanol rhwng gwaith a bywyd, ond hefyd amrywiaeth o bobl eraill gyda hanes o salwch hirdymor, a phobl eraill sydd wedi mabwysiadu cyfrifoldebau gofalu newydd a gwahanol. Mae yna amryw o wahanol resymau pam fod pobl wedi gadael y farchnad lafur. Mae rhai o'r bobl hynny, yn anecdotaidd, yn ceisio dychwelyd, ac mae hynny'n cael ei yrru i raddau helaeth gan yr argyfwng costau byw a'r ffaith bod pobl angen dychwelyd i'r gwaith. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn y lle gorau posibl i ddychwelyd i'r farchnad lafur a rhoi'r sgiliau a'r cyfle iddynt fynd i mewn i'r farchnad lafur a chael swydd y byddant yn ei mwynhau ac a fydd yn ddefnyddiol gyda'u heriau a'u cyfleoedd ariannol.
Ar fater ymfudo, un o'r ychydig bethau da yn fy marn i yng nghynllun twf Kwasi Kwarteng oedd sgwrs wahanol am ymfudo a fyddai wedi cynhyrfu llawer o'i dîm ei hun. Ond mewn gwirionedd, buom yn dadlau'n gyson wrth Lywodraeth y DU fod angen dull gwahanol o weithredu ar ymfudo. Ar gyfer sectorau allweddol o'n heconomi, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rhethreg a'r ddelwedd nad yw Llywodraeth y DU am i bobl o rannau eraill o'r byd ddod yma i weithio neu i fod yn rhan o'n cymuned—ac rydych chi'n gweld hyn eto yn yr Ysgrifennydd Cartref presennol a'r ffordd y mae hi wedi siarad am bobl—yn gwbl hunandrechol. Rydym am weld dull llawer mwy synhwyrol wedi ei yrru gan anghenion yr economi, ie, ond hefyd wedi ei yrru gan ymagwedd weddus sy'n cydnabod dynoldeb sylfaenol bodau dynol eraill. Nid wyf yn credu bod hynny bob amser yn wir am Lywodraeth bresennol y DU.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn heddiw? Fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, mae'n amlwg fod yna her ynghylch recriwtio'r gweithlu a'r bwlch sgiliau yng ngogledd Cymru. Yn wir, ddechrau'r flwyddyn hon, dangosodd ymchwil yn The Leader fod bron i hanner yr holl fusnesau yn ei chael hi'n anodd recriwtio gweithwyr newydd, ac mae hyn yn parhau i gael ei ailadrodd wrth gyfarfod â chyflogwyr, fel rwy'n siŵr eich bod chi'n ei wneud hefyd, Weinidog. Ond un o'r meysydd allweddol y credaf y gallem geisio canolbwyntio mwy arno yw hyrwyddo manteision a sgiliau addysgol prentisiaethau. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, Weinidog, y gall prentisiaethau fod yn llwybrau gyrfa hynod lwyddiannus sydd, yn bwysig, yn aml yn arwain at fwy o gynnydd o ran sgiliau a chadw swydd na mynd i'r brifysgol. Wrth gwrs, i ogledd Cymru, mae hwn yn gyfle gwych, oherwydd mae'n lle mor wych i fyw ynddo, a gweithio ynddo hefyd. Felly, o gofio hynny, Weinidog, pa waith a wnewch gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod ein gweithlu yn y dyfodol yn cael gwybod am fanteision gwych prentisiaethau a all arwain at yrfaoedd hir sy'n talu'n dda, a helpu yn y pen draw i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a wynebwn yn y dyfodol?
Wrth gwrs, rwy'n credu bod gan hyn a'n Llywodraethau blaenorol dan arweiniad Llafur Cymru hanes da o hyrwyddo prentisiaethau, nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran eu hansawdd a'r ystadegau cwblhau. Rwy'n cofio Ken Skates, pan oedd yn ddyn iau byth, fel Gweinidog sgiliau, a'r gwaith a wnâi a'r ffaith bod ein ffigyrau cwblhau hyd yn oed y pryd hwnnw'n llawer gwell na'r hyn a gâi ei gyflawni gan Lywodraeth y DU yn Lloegr, ac mae hwnnw'n gyflawniad yr ydym wedi'i barhau.
Mae ein her ni yn ymwneud â chael digon o bobl i fod eisiau mynd ar hyd y llwybr prentisiaeth, a chyflogwyr a fydd yn elwa ohono hefyd. Mae yna her ariannol go iawn yn hynny hefyd. Rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr am y ffaith bod traean o'n rhaglen brentisiaethau wedi'i hariannu gan gyn-gronfeydd yr UE bellach, ac mae honno'n her fawr iawn i ni ei goresgyn. Rydym hefyd wedi gweld chwyddiant cynyddol sy'n creu mwy a mwy o bwysau, nid yn unig ar brentisiaethau, ond ar hyfforddiant mewn gwaith hefyd. Mae gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb erbyn hyn yn yr hyn y gallant ei wneud i gydnabod bod gweithiwr y dyfodol yma i raddau helaeth—mae'n debygol y bydd eich gweithwyr ymhen 10 mlynedd yn eich gweithlu eisoes—a'r hyn y gallwch ei wneud i uwchsgilio pobl yn y gweithle hefyd.
Mynychais raglen Sgiliau Cymru y bore yma. Maent yn disgwyl i 5,000 o bobl tuag at ddiwedd eu gyrfa ysgol uwchradd edrych ar ddewisiadau yn y dyfodol, ac mae opsiynau prentisiaeth ac opsiynau sgiliau'r dyfodol yn rhan fawr o'r hyn y maent yn sôn amdano. Felly, rydym yn cael sgwrs fwriadol a phwrpasol am bob llwybr ar gyfer y dyfodol—addysg bellach, prentisiaethau, sgiliau eraill, ac nid llwybr y brifysgol yn unig—nid yn unig i yrfa werth chweil o ran y bobl y byddwch yn eu cyfarfod, ond i'r gwobrau ariannol sy'n cael eu cynnig hefyd.