Strategaeth Arloesi

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:54, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Yn ôl eich dogfen ymgynghori, rhwng 2014 a 2020 roedd dros 450 o fuddsoddiadau corfforaethol yng Nghymru ar draws ystod eang o sectorau a busnesau, nifer ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch ymchwil a datblygu. Fe wnaethant arwain at dros 21,200 o swyddi newydd, gyda 18,300 arall yn cael eu diogelu, gan gynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £3.8 miliwn yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym am y potensial i gael buddsoddiad pellach o'r math hwn ar gyfer y dyfodol, a sut y mae sicrhau y gall y cymunedau sydd heb elwa hyd yma wneud hynny yn y dyfodol? Diolch.