3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:21, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae problemau gyda'r Bil hwn. Mae un o bwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi wedi nodi problemau gyda'r Bil hwn; mewn perthynas ag un o'r cymalau y gofynnir inni roi cydsyniad iddynt, cymal 22, maent yn gadarn o'r farn ei bod yn amhriodol rhoi'r pŵer hwnnw i'r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiystyru deddfwriaeth sylfaenol, a gwrthod barn y rheoleiddiwr, Ofgem. Rwy'n bryderus, Lywydd, fod gofyn heddiw i'r Senedd gydsynio â chynnig cydsyniad deddfwriaethol na wyddom fawr ddim amdano, nad ydym wedi craffu'n iawn arno, ac eto fe gaiff ei basio heb drafodaeth.