Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn eich plaid a ninnau, wedi bod yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru ynglŷn â lleihau'r cyfnod craffu ar gyfer y Bil plastigion untro. Roeddech chi'n cwyno, yn gwbl briodol, nad oeddem wedi cael digon o amser; dim ond tair, pedair, pum, chwe wythnos a roddwyd i ni i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Pam felly eich bod chi'n hapus na chraffwyd o gwbl ar y ddeddfwriaeth benodol hon ac na chafwyd ond ychydig oriau i'w darllen?