Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad gwerthfawr iawn. Mae'r argyfwng a nododd y Cadeirydd yn ei ragair yn amlwg wedi dyfnhau, fel y dywedodd, ac mae'r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn parhau o ganlyniad i gamreoli economaidd Llywodraeth y DU hollol ddi-drefn yn rhywbeth yr ydym eisoes wedi'i drafod nifer o weithiau heddiw yn barod. Rwy'n dal i orfod edrych ar fy ffôn i weld pwy yw'r Gweinidog cyfrifol.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhywfaint o help gyda chostau ynni yn hwyr yn y dydd, ond mae'r sicrwydd ynghylch y mesurau hynny wedi diflannu fel un o'r nifer o droeon pedol a ddilynodd cyllideb ddi-drefn y Torïaid fis diwethaf, fel y buom yn ei drafod ychydig yn gynharach. Mae costau ynni'n dal i fod yn sylweddol uwch na'r gaeaf diwethaf, hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw. Ceir llawer o aelwydydd a busnesau na chânt gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae gennym gyfraddau llog uwch a phunt wannach erbyn hyn, sy'n codi chwyddiant i lefelau nas gwelwyd ers y 1980au a'r llywodraeth Geidwadol fwyafrifol ddiwethaf.
Mae'r DU wedi gweld rhai o'r codiadau mwyaf yng nghostau ynni, er gwaethaf dibyniaeth uniongyrchol gymharol gyfyngedig ar gyflenwadau nwy o Rwsia, a hynny'n uniongyrchol oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddiwygio system ynni'r DU dros y degawd diwethaf. Ceir risg y bydd y methiant hwn yn ein gorfodi i fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil, fel sy'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiadau enbyd gan Lywodraeth y DU ar ei bwriad i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd, a hwyluso gwaith ffracio newydd yn Lloegr. Hoffwn ailadrodd unwaith yn rhagor, rydym yn gwrthwynebu'r ddau fesur hwn yn chwyrn, a bydd ein polisïau'n parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i wrthwynebu unrhyw echdynnu newydd yng Nghymru.
Mae'r system bresennol wedi caniatáu i fusnesau mawr yn y sector ynni gynhyrchu ffawdelw digynsail, a dylai Llywodraeth y DU fod yn targedu'r enillion ffawdelw ar draws y sector ynni cyfan i ariannu'r cymorth i aelwydydd a busnesau. Mae'n anodd dirnad beth ddaeth dros Lywodraeth y DU i ddiystyru trethu ffawdelw yn y sectorau olew a nwy. Ni allaf ddirnad ai ideoleg yw hi neu a ydynt wedi paentio eu hunain i gornel wleidyddol nad ydynt yn gwybod sut i ddod ohoni.
O ystyried y troeon pedol diweddar a chyflwr truenus cyllid cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaethant, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt ar echdynnu tanwydd ffosil ar fyrder, Ddirprwy Lywydd, oherwydd nid esgus dros leihau uchelgais ar gyfer system ynni decach a gwyrddach yw'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng, mewn gwirionedd, yn mynnu ein bod yn rhoi camau pellach ar waith i fynd i'r afael â methiannau'r degawd diwethaf, tra byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag y cythrwfl economaidd Torïaidd hwn.
Sefydlwyd yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy i nodi cyfleoedd a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n peryglu ein huchelgais i Gymru o leiaf ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain o ffynonellau adnewyddadwy, er, yn amlwg, byddem yn hoffi bod yn allforiwr net hefyd. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i aelodau'r archwiliad dwfn am eu gwaith ystyrlon, ac am eu cefnogaeth barhaus wrth inni weithredu'r argymhellion.
Gydag uchelgais clir ar waith, byddwn yn ymgynghori ar dargedau ynni adnewyddadwy diwygiedig yn ddiweddarach eleni, yn unol â'n hymrwymiadau, fel y'u nodir yn 'Cymru Sero Net'. Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol y rôl y gall targedau ei chwarae yn helpu i ddod â mwy o eglurder i ddiwydiant, rhanddeiliaid ac i'r holl ddinasyddion ar y llwybr i system ynni sero net. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod gan Gymru doreth o adnoddau naturiol sy'n golygu ein bod yn gallu cynhyrchu ynni i ateb y galw mewn mannau eraill. Ond os ydym am ddefnyddio ein hadnoddau, rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu ein treftadaeth naturiol ac sy'n cadw cymaint â phosibl o fudd a gwerth yng Nghymru, gan rannu'r costau a'r gwobrau'n deg, fel y mae nifer fawr o'r Aelodau wedi dweud yn ystod y ddadl hon.
Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o ymrwymiadau o'r archwiliad dwfn; rydym wedi cyhoeddi ein canllawiau ar berchenogaeth i gefnogi'r trafodaethau rhwng datblygwyr a chymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau perchnogaeth leol a chymunedol; rydym wedi cynyddu'r adnoddau i Ynni Cymunedol Cymru a'r cyllid sydd ar gael drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol; ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar gwmni datblygu ynni adnewyddadwy mewn dwylo cyhoeddus, fel y gwnaethom ymrwymo i'w wneud yn 'Cymru Sero Net'.
Hoffwn nodi, Janet, eich amheuaeth yn eich cyfraniad am gwmni sy'n eiddo i'r wladwriaeth ar gyfer y DU neu i Gymru, ond wrth gwrs, caiff y grid ei ddarparu gan Scottish Power yng ngogledd Cymru, ac eironi'r hyn a ystyriwch yn gwmni preifat sy'n eiddo i wlad wahanol—yr un peth ar gyfer ynni, yr un peth ar gyfer y rheilffyrdd, yr un peth ar gyfer yr hyn a elwir gennych yn sector preifat—byddwn yn hoffi pe baech yn callio ac yn deall bod y gwledydd hynny'n elwa o ddiffyg uchelgais ein Llywodraeth ar gyfer ei phobl ei hun. Nid ydym yn rhannu'r diffyg uchelgais hwnnw. Byddwn yn cyflwyno manylion am ein cynlluniau ar gyfer cwmni datblygu mawr mewn dwylo cyhoeddus yr wythnos nesaf, a sut y byddwn yn datblygu perthynas newydd gyda'r sector preifat i gyflawni'r nod hwnnw.
Rydym eisiau cefnogi sector ynni adnewyddadwy preifat sy'n ffynnu ac sy'n darparu'r gwerth economaidd a chymdeithasol y gall buddsoddiad ei gynnig i Gymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, lle mae gennym weledigaeth gyffredin ar gyfer y modd y bydd buddsoddiad o fudd uniongyrchol i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn, Rhun, fy mod wedi cael trip pleserus iawn i Wynt y Môr, ond fe gawsom drafodaeth adeiladol iawn gyda datblygwr yno ynglŷn â sut y gallwn ymgorffori trefniadau ynni cymunedol yn y system honno, a bydd hynny'n gwella'r holl system ar draws gogledd Cymru. Rhaid inni sicrhau'n bendant fod y ffrydiau cyflenwi, ar gyfer cam adeiladu a cham gweithredu'r datblygiadau sector preifat hynny—er, unwaith eto, mae 'sector preifat' mewn dyfynodau—yn dod i Gymru, felly rwy'n benderfynol iawn o wneud hynny. Ond rydym hefyd yn benderfynol o gynnwys rhaglen perchnogaeth gymunedol yn y datblygiadau preifat hynny drwy gwmni datblygu mawr.
Mae ein trefniadau cydsynio a chynllunio a thrwyddedu yno i gefnogi datblygiadau priodol ac i osgoi effeithiau annerbyniol ar bobl a'r amgylchedd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y prosesau sy'n penderfynu ar geisiadau yn addas i'r diben ac nad ydynt yn oedi penderfyniadau'n ddiangen, ond nad ydynt yn effeithio'n ddiangen ar ein hamgylchedd ychwaith. Mae ein rhaglen waith i symleiddio'r prosesau cydsynio a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gefnogi datblygwyr yn mynd rhagddi. Byddwn yn nodi casgliadau'r adolygiad annibynnol o drefniadau cydsynio morol erbyn diwedd eleni, ac fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil cydsyniad seilwaith cyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Rhan allweddol o'r seilwaith sydd ei angen arnom yw digon o gapasiti grid, fel y mae pawb, fwy neu lai, wedi'i gydnabod. Mae'n amlwg nad yw'r system bresennol, gyda'r cyfrifoldeb wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU, yn addas i'r diben. Braidd yn drasig, ac ychydig cyn y traed moch go iawn a ddilynodd dros y ffin, roeddwn newydd siarad â'r Gweinidog ar y pryd, Greg Hands, ac o'r diwedd roeddent wedi derbyn yr angen am grid wedi'i gynllunio a gweithredwr system rhwydwaith uwch. Siaradais â phennaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y bore yma, i bwysleisio'r ffaith ein bod eisiau i'r ymrwymiad hwnnw barhau. Mae'n ymddangos i mi fod cyswllt â Llywodraeth bresennol y DU yn amhosibl oherwydd nid ydynt yn aros yn y swydd yn ddigon hir ichi allu cael eu cyfeiriad. Ond os cawn unrhyw synnwyr o bwy sy'n gyfrifol amdano, byddwn yn gwthio hynny. Mae gennyf gyfarfod grŵp rhyng-weinidogol wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun. Roedd i fod i gael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaeredin; mae'n rhithiol erbyn hyn, oherwydd nid ydym yn gwybod pwy yw'r Gweinidog a fydd yn mynychu o Lywodraeth y DU. Ond byddwn yn gwthio i sicrhau parhad yr ymrwymiad i weithredwr system rhwydwaith uwch a grid wedi'i gynllunio, oherwydd dyna sydd ei angen arnom. Rydym wedi bod yn gwthio am hynny ers cyn cof; rwyf wedi bod yn siarad am hyn ers 40 mlynedd yn bersonol. Sut y gallwn gael grid wedi'i lywio gan y farchnad mewn amgylchiadau lle nad oes marchnad weithredol, hynny yw, mae'n anghredadwy. Felly, byddwn yn gwthio am hynny. Er hynny, nid dim ond gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hynny rydym ni; mae gennym brosiect grid Cymru ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, felly byddwn yn arwain ar hynny. Rydym wedi mabwysiadu dull strategol o weithredu ar seilwaith y grid, wrth inni ddarparu'r dystiolaeth empirig ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar y grid yng Nghymru, er mwyn llywio anghenion gweithredwr system.
Roedd yr archwiliad dwfn yn cydnabod yr angen parhaus am ddull gweithredu strategol i Gymru yn yr argymhelliad ar gyfer pensaer system; rydym yn ystyried honno fel un elfen mewn set ehangach o ddiwygiadau sydd eu hangen ar lefel y DU i reoleiddio'r system ynni i ddod yn faes mwy deinamig, effeithlon a chynaliadwy. Rydym yn gweithio ar wahân [Torri ar draws.]—ni fydd gennyf amser yn awr, mae fy amser wedi dirwyn i ben—gydag CNC ar y cyllidebau a'r Bil cynllunio seilwaith, ac rwyf am ddweud wrth Janet fy mod yn falch o weld ei bod wedi cefnogi datganoli Ystadau'r Goron, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy nghopïo i mewn i'w llythyr at y Gweinidog.