Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Gwnaf i ddim ailadrodd popeth mae pawb wedi'i ddweud; mae yna beryg o wneud hynny weithiau wrth gau dadl fel hyn, ond dim ond i bigo rhai o'r prif themâu. Yn sicr, mae'r neges ynglŷn â thrwyddedu a chaniatadau yn dod trwyddo'n glir. Ar drwyddedu ar y môr, dwi'n ymwybodol bod, yn Lloegr, y Llywodraeth yn ymrwymo i leihau'r amserlen ar gyfer trwyddedu i 12 mis. Rŷn ni'n gwybod am enghreifftiau yn yr Alban lle mae’r Llywodraeth yn fanna wedi trwyddedu prosiectau mawr o fewn 11 mis. Felly, rŷn ni'n edrych nawr i Lywodraeth Cymru i wybod ble mae Cymru yn mynd, ac rôn i'n falch o glywed bod yna gyhoeddi efallai ar ganlyniadau gwaith sydd wedi digwydd ddiwedd y flwyddyn. Ond, wrth gwrs, eto, diwedd y flwyddyn—mae yna risg ein bod ni'n colli cyfle fan hyn a bod y cyfleoedd mawr y mae'r gwledydd eraill o'n cwmpas ni yn eu cofleidio yn mynd i fod wedi cael eu colli erbyn inni gyrraedd y pwynt lle rŷn ni'n barod.
Mi oeddwn i'n mynd i groesawu datganiad llefarydd y Ceidwadwyr eu bod nhw bellach o blaid datganoli Ystad y Goron. Mae hi bellach wedi egluro nad ydyn nhw o blaid hynny. Mae’n amlwg bod u-turns yn nodwedd y mae’r Ceidwadwyr yn falch iawn ohonyn nhw ac mae'r u-turn yna yn gynt hyd yn oed na rhai o rai Liz Truss yn yr wythnosau diwethaf. Ond, dyna fe, dwi ddim yn gwybod, rhyw bolisi—. Wel, cewch chi esbonio pam neu le rŷch chi'n sefyll efallai rhywbryd eto.
Mae yna gyfraniadau eraill wrth gwrs oedd wedi cyfeirio at bwysigrwydd ein bod ni'n cael rheolaeth dros ddewis y dyfodol ynni rŷn ni eisiau ei weld yng Nghymru, yn hytrach na bod eraill yn gwneud hynny drostyn ni, oherwydd rŷn ni'n gweld y legacy sydd wedi cael ei adael yng nghyd-destun glo a chyd-destunau eraill. Ond, ar yr un pryd, wrth gwrs, mae cydbwyso'r ehangu ynni adnewyddadwy yna gyda atal dirywiad bioamrywiaeth yn rhywbeth rŷn ni i gyd yn ingol ymwybodol ohono fe.
Roedd Alun Davies yn dweud, mewn gwirionedd, does yna ddim lot o wahaniaeth, efallai, rhwng beth mae’r pwyllgor yn ei ddweud a beth mae’r Llywodraeth yn ei ddweud. Y rhwystredigaeth fawr yw, wrth gwrs, fod y pwyllgor a’r pwyllgorau o'n blaenau ni wedi bod yn dweud hyn ers 10 mlynedd a rŷn ni dal yn gorfod ei ddweud e. Ac rwy'n derbyn bod yna nifer o'r elfennau hynny y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ac mae rhywun yn cydnabod hynny. Ond mae yna deimlad o fenter ar y cyd—y joint venture yma yr oedd Alun yn sôn amdano, a rwy'n credu sydd yn rhywbeth y dylem ni fod yn adeiladu arno fe. Ond hefyd y joint venture go iawn rŷn ni eisiau ei weld yw rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datgloi’r potensial rŷn ni eisiau ei weld.
Diolch i Rhun am gyfeirio’n benodol at y seilwaith, wrth gwrs, sydd yn gwbl ganolog i’r hyn sy’n gyrru llawer o’r weledigaeth rŷn ni eisiau ei weld, ac y mae porthladd Caergybi—fel Aelod rhanbarthol, gallaf ddweud y byddwn i'n cytuno 100 y cant. Fel cadeirydd y pwyllgor, byddwn i'n dweud, wrth gwrs, fod yna borthladdoedd ar draws Cymru rŷn ni eisiau gweld yn manteisio ar hyn. Ond, wrth gwrs, mae'r holl werth ychwanegol a fydd yn dod yn sgil y cadwyni cyflenwi ac yn y blaen—hynny yw, dyna’r gôl, yntefe? Hynny yw, rŷn ni eisiau gwireddu yr holl fuddiannau—nid dim ond y datgarboneiddio, ond y buddiannau economaidd a'r buddiannau cymdeithasol fydd yn gallu dod yn ei sgil e. Felly, dyw cyflawni un o'r rheini—dyw hwnna ddim yn llwyddiant; mae'n rhaid inni gyflawni ar bob un o'r ffryntiau yna.
Ac mae’r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs: mae unrhyw fath o sicrwydd o fewn y sector yn yr hinsawdd rŷn ni'n ffeindio ein hunain yng nghyd-destun cyflwr Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn heriol eithriadol. Ac mae yna adroddiadau, onid does, fod y bleidlais ynglŷn â ffracio yn mynd i fod yn rhyw fath o bleidlais o hyder, neu fel arall, yn y Prif Weinidog. Wel, efallai fod hynny’n wir, ond, i mi, yn bwysicach na hynny, mi fyddai pleidlais felly yn bleidlais o hyder, neu ddiffyg hyder, yng nghenedlaethau’r dyfodol. Anghofiwn ni am unigolion, ond mi fyddai fe'n arwyddocaol iawn dwi'n credu ac yn ddatganiad clir o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod newid hinsawdd yn rhywbeth sydd bellach ddim yn flaenoriaeth, a hynny, fel rôn i'n dweud, lai na blwyddyn ers uwchgynhadledd COP.
Felly, diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau. Mae hwn yn ddarn o waith wrth gwrs fydd yn parhau o safbwynt y pwyllgor. Mi fyddwn ni'n parhau i graffu ar waith y Llywodraeth yn y cyd-destun yma ac mi fyddwn ni'n parhau i fod yn feirniadol pan fo angen, ond i fod yn gefnogol hefyd er mwyn trio cael y maen i'r wal. Diolch.