Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 19 Hydref 2022.
Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y ddadl hon heddiw ac fel y gwyddoch, rydym yn hapus iawn i dderbyn y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor.
Mae gan yr adroddiad ffocws clir a chywir ar werthuso a monitro effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a rhoi llais a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau ynghanol y system. Yn ogystal â'r astudiaethau gwerthuso a gyflawnwyd gennym, asesir cydymffurfiaeth â'r Ddeddf gan y rheoleiddwyr AGC ac AGIC, a ategir gan fframwaith gwella perfformiad cenedlaethol ac adroddiadau awdurdodau lleol. A thrwy ein diwygiadau ailgydbwyso, byddwn yn sicrhau bod hyn yn esblygu ymhellach.
Mae defnyddwyr a gofalwyr yn ein helpu i lunio'r rhaglen ailgydbwyso drwy'r gwahanol grwpiau gorchwyl a gorffen, gan gynnwys un yn edrych yn benodol ar gydgynhyrchu, ymgysylltu a llais ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Edrychir ar allbynnau'r grwpiau hyn yn y gwanwyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ailgydbwyso ar ymgysylltu a llais yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gydgynhyrchu offer a safonau i wella ymgysylltiad a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, a bydd y gwaith yn cael ei adlewyrchu yn y fframwaith comisiynu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu.
Hefyd, cafodd profiadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau eu hystyried gan y grŵp arbenigol, a oedd yn cynnwys unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd a sefyllfaoedd. Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor imi adrodd ar ba mor bell yr oedd y grŵp hwn wedi cyrraedd, ac rwy'n falch o ddweud bod yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn hyn. Mae yn y broses o gael ei gyfieithu, a bydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, ym mis Tachwedd. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r unigolion a gymerodd ran yn y grŵp hwnnw. Pan fydd yr adroddiad wedi'i ystyried gan Weinidogion ac Aelod dynodedig Plaid Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hwn yn rhan greiddiol o'n cytundeb cydweithio, bydd cyfnod o ymgynghori helaeth i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cael ei gydgynhyrchu. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod yr ymgyngoriadau hyn yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a'r trydydd sector, a grwpiau cymunedol sy'n cynrychioli eu barn a'u profiadau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymgorffori llais defnyddwyr gwasanaethau mewn arolygiadau. Rhwng Hydref 2021 ac Awst 2022, cynhaliodd AGC 705 o arolygiadau o 614 o gartrefi gofal i oedolion, a threuliodd 9,181 o oriau ar safleoedd, yn darparu cyfle i siarad yn uniongyrchol â'r preswylwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae honno'n rhan allweddol o'r hyn y mae AGC yn ei wneud: ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â'r trigolion. Mae AGC hefyd yn chwilio am dystiolaeth fod gan bobl lais yn y modd y caiff eu cartref ei redeg, sydd, unwaith eto, yn bwynt pwysig iawn.
Mae AGC yn ymwybodol iawn o effaith barhaus y pandemig ar ofal cymdeithasol, ac mae'r pwysau ar staffio yn ei gwaethygu. Pan fo AGC yn canfod canlyniadau gwael, maent yn galw am weithredu a byddant yn dychwelyd i wirio gwelliannau a wnaed. Gallai archwiliadau ychwanegol o'r fath ohirio cwblhau'r rhaglen a gynlluniwyd, ond y nod o hyd yw bod wedi archwilio'r holl gartrefi gofal cofrestredig i oedolion rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2023. Gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddyliau'r pwyllgor.
Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am recriwtio, cyflogau a thelerau ac amodau, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw—ac mae llawer o bobl wedi sôn heddiw—at yr angen i fynd i'r afael â'r materion dybryd hyn. Mae'r rhain i gyd yn cael eu hystyried gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n dod â phartneriaid allweddol o bob rhan o'r sector ynghyd i ddod o hyd i atebion uchelgeisiol, pragmatig a chyraeddadwy, ac i sicrhau newid go iawn a pharhaol. Mae'r fforwm wedi canolbwyntio ar welliannau i gyflogau i gychwyn, gan gynnwys cyngor ar sut i symud ymlaen â'r ymrwymiad i dalu'r cyflog byw go iawn i holl staff gofal, ac rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i gefnogi gan gyllid o £43 miliwn eleni. Gofynnodd y cadeirydd am y cynnydd i'r cyflog byw go iawn, ac mae hynny'n rhywbeth sydd dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd. Wrth gwrs ein bod am ei dalu, ond rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol nad yw'r amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd yn galonogol iawn. Ond mae hyn yn rhywbeth y byddem yn sicr eisiau ei wneud.
Mewn perthynas â recriwtio, rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau gwerthusiad cadarn o ymgyrch Gofalwn.Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisoes wedi comisiynu gwaith ymchwil ar ddulliau recriwtio cyflogwyr gofal, gan gynnwys eu hymwybyddiaeth o'r ymgyrch a'i heffaith, a bydd hwnnw'n cael ei gwblhau ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n meddwl ei bod yn anodd sefydlu pa mor llwyddiannus yw ymgyrchoedd recriwtio penodol pan fo gennym gymaint o ddarparwyr yn darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru oherwydd y nifer fawr o gartrefi gofal yn y sector annibynnol.
Mae'r adroddiad yn cydnabod y potensial ar gyfer defnyddio mwy o wirfoddolwyr mewn cartrefi gofal, rhywbeth y mae nifer o'r Aelodau wedi'i grybwyll, ac yn ein hymateb ysgrifenedig fe wnaethom fanylu ar y gwaith a wnawn gyda'n partneriaid i ehangu rôl, cyrhaeddiad a sgiliau gwirfoddolwyr yn y lleoliadau hyn ac i dyfu eu niferoedd. Rwy'n awyddus iawn i annog gwirfoddolwyr i ymwneud mwy â chartrefi gofal ac ystyriaeth allweddol fydd sicrhau bod rôl gwirfoddolwyr yn glir ac yn briodol, ac yn canolbwyntio ar werth ychwanegol.
Rydym yn cytuno'n llwyr fod rhaid i brofiadau dinasyddion fod yn sail ac yn ysgogiad i bob gwelliant yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol, ac rydym yn derbyn yr egwyddor sy'n sail i argymhelliad y pwyllgor y dylid cyflwyno gofyniad gorfodol ychwanegol i rannu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi ar hyn o bryd fod costau gweithredu hyn ar draws cannoedd o ddarparwyr yn gorbwyso'r manteision y tu hwnt i'r mesurau rhannu gwybodaeth sydd eisoes ar waith. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried yn y dyfodol. Ar ffioedd ychwanegol, byddwn yn pryderu'n fawr os oes unrhyw unigolyn yn talu am ofal lle mae'r gofal hwnnw eisoes yn cael ei ddarparu am ddim drwy'r pwrs cyhoeddus, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaeth sawl Aelod ynghylch gorfod talu ffioedd ychwanegol i gael mynediad i'r ardd, sy'n gwbl hurt. Felly, rwy'n credu y byddai hynny'n gwbl anghywir.
Mae canllawiau clir eisoes ar wasanaethau ychwanegol yn y fframwaith gofal iechyd parhaus, a rhaid peidio byth â defnyddio trefniadau cyfraniadau personol o'r fath fel mecanwaith ar gyfer sybsideiddio'r gwasanaeth y mae'r GIG yn gyfrifol amdano. Felly hefyd, nid ydym yn credu ei bod yn briodol ymrwymo i ddiwygiadau i reoliadau ar ben y rhain, na chychwyn system gwneud iawn annibynnol newydd, cyn ystyried adroddiad gan y grŵp arbenigol ar y gwasanaeth gofal cenedlaethol. Byddai angen inni ystyried yn ofalus sut y mae unrhyw gywiriadau canlyniadol y gallem eu gwneud i'r rheoliadau a'r fframweithiau presennol yn gweddu i gyd-destun unrhyw system newydd, felly nid ydym yn teimlo y gallwn dderbyn yr argymhelliad hwnnw yn awr.
Yna, yn olaf, mewn perthynas â chyllid cyfun ar gyfer comisiynu, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau integredig wedi bod yn adolygu'r trefniadau presennol fel rhan o'n rhaglen ailgydbwyso, ac yn fwyaf arbennig maent wedi ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar gomisiynu lleoliadau cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Byddant hefyd yn adolygu effaith y pecyn cymorth a gydgynhyrchwyd gyda rhanddeiliaid. Bydd argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhan o'r pecyn ymgynghori y gwanwyn nesaf.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr i'r pwyllgor am ei adroddiad, sy'n adroddiad gwerthfawr iawn yn fy marn i. Mae'n amlwg fod llawer i'w wneud. Mae llawer o waith yn parhau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'n partneriaid ar yr agenda hon drwy'r gwahanol grwpiau a sefydlwyd gennym. Fe fyddwn yn cadw'r argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud mewn cof, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl ar y rheini i'r pwyllgor wrth iddynt fwrw ymlaen. Diolch.