Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch. A fyddech yn cytuno â mi nad yw gwir arwyr ein cymdeithas yn gwisgo clogynnau, pobl fel y deisebydd ydynt, a gyflwynodd y deisebau hyn i godi materion fel hyn ar lwyfan cenedlaethol? Ac a ydych yn cytuno â mi y dylai fod mwy o gyfle i faterion fel hyn gael eu trafod yn y Senedd fel y gall pawb ledled Cymru, fel y deisebydd, ddwyn y pwyntiau hanfodol bwysig hyn i'n sylw ni fel y swyddogion etholedig yn y lle hwn?