Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd

QNR – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn Arfon yr effeithiwyd arnynt gan broblemau gyda chynllun Arbed 2?

Photo of Julie James Julie James Labour

Mae 655 o aelwydydd yn Arfon wedi elwa ar y gwelliannau effeithiolrwydd ynni a ddarperir o dan gynllun Arbed 2, gan arbed iddynt ar gyfartaledd fwy na £300 ar eu biliau ynni blynyddol. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda Fortem Energy Services i sicrhau bod pob aelwyd yn gwybod am y broses unioni cam pan geir problemau.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector preifat i annog mwy o adeiladu tai yng Ngogledd Cymru?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The Welsh Government works with the private sector by providing increased funding, reducing barriers and maintaining a regular dialogue with developers, SMEs and industry representatives with the aim of encouraging more house building in North Wales, and across Wales.