Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 25 Hydref 2022.
Wel, Llywydd, diolch i Sioned Williams am rai o'r ffeithiau pwysig iawn hynny. Rwy'n credu fy mod i wedi adrodd yn flaenorol i'r Senedd bod pwyllgor costau byw'r Cabinet yn cyfarfod yn wythnosol, ac, ar ddechrau pob cyfarfod, rydym ni'n clywed ar hyn o bryd gan grwpiau arbenigol sy'n gallu rhoi'r wybodaeth a'r syniadau diweddaraf i ni ynglŷn â sut y gallwn ni wneud mwy i helpu pobl yng Nghymru. Fe wnaeth pwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe, a ddoe roedd y dystiolaeth arbenigol yn wir gan Sefydliad Bevan. Aeth prif weithredwr y sefydliad drwy nifer o'r pwyntiau y mae Sioned Williams wedi eu codi y prynhawn yma, ac aeth drwy'r pethau y mae'r sefydliad yn credu sy'n cael effaith gadarnhaol yma yng Nghymru gyda ni, y pethau rydym ni wedi eu gwneud ar y cyd â Phlaid Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim—ac mae dros 4,000 o blant ychwanegol yn rhanbarth yr Aelod yn derbyn pryd ysgol am ddim o ganlyniad i'r gwaith rydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd—ac edrych ar effaith y cymorth rydym ni'n ei roi gyda chost y diwrnod ysgol, a gyda'r gronfa cymorth dewisol, gyda dros 4,500 o ddyfarniadau yn rhanbarth yr Aelod yn unig ym mis Medi. Yr holl bethau ymarferol hynny yr ydym ni'n gallu eu gwneud, a'r agweddau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw. Mae gwaith yn cael ei wneud, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ar strategaeth tlodi plant ond, ar hyn o bryd, rydym ni'n canolbwyntio llai ar strategeiddio nag yr ydym ni ar nodi'r camau ymarferol hynny y gallwn ni gynorthwyo â nhw a fydd yn helpu'r teuluoedd hynny a'r plant hynny drwy'r gaeaf hwn.
Rwy'n falch iawn, Llywydd, o weld mwy o awdurdodau lleol yn nodi'r ffyrdd y byddan nhw'n defnyddio'r gronfa ddewisol yr ydym ni wedi ei darparu iddyn nhw i helpu teuluoedd drwy'r gaeaf hwn, a gwn y bydd Sioned Williams yn falch o weld, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn ei rhanbarth hi, bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu defnyddio'r arian sydd ganddyn nhw nawr i ddarparu £50 i deuluoedd ar gyfer pob plentyn ym mhob teulu sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, a £150 i'r holl deuluoedd hynny sydd â phlant sy'n byw mewn llety dros dro. Lle mae syniadau pellach, a phethau pellach y gallwn ni weithio arnyn nhw gyda'n gilydd, yna, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn awyddus i ymchwilio i syniadau sy'n ymarferol, ac sydd, o safbwynt ariannol, o fewn ffiniau'r posibl.