Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 25 Hydref 2022.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Brifysgol Loughborough a ddangosodd bod tlodi plant ledled y DU, yn 2020-21, wedi gostwng 4 y cant, ond, yng Nghymru, roedd wedi cynyddu 5 y cant. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pam mae'r ystadegau yn dweud wrthym ni fod eich Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â mynd i'r afael â thlodi plant?