Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:00, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Ar y tri phwynt hynny, Llywydd, yn gyntaf oll, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Lafur, byddwn yn gallu gweithredu addewidion y Blaid Lafur. Rwyf i wedi esbonio i chi—[Torri ar draws.] Rwyf i wedi esbonio i chi pam, o dan eich Llywodraeth chi, gyda chyllidebau'n gostwng o un flwyddyn i'r llall, a nawr cyfnod arall o gyni cyllidol yn ein hwynebu ni i gyd, ni fydd yr addewidion a wnaed gan eich Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr yn cael eu cyflawni. Gyda Llywodraeth Lafur, yna bydd y pethau hynny'n wahanol ac yna wrth gwrs byddwn ni'n gweld pethau'n gwella, fel y gwnaethom ni o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Ac esboniais i chi bod arosiadau hir yn y GIG yn parhau i leihau, er gwaethaf popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud, ac mae popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud yn ymestyn i geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth orthopedig cynaliadwy yma yng Nghymru. Mae hynny'n her, Llywydd. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae gennym ni fwy o waith y mae angen ei wneud. Mae gennym ni theatrau llawdriniaeth nad ydyn nhw'n gallu  cwblhau lefel y gweithgarwch yr oedden nhw'n gallu ei gwblhau cyn y pandemig o hyd, ac eto, fel y dywedais i, ym mis Awst yn unig cyflawnwyd 24,000 o lawdriniaethau yn y GIG yng Nghymru, a 230,000 o apwyntiadau cleifion allanol. Er fy mod i'n gresynu unrhyw un sy'n aros yn rhy hir am y llawdriniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, yr hyn rwy'n ei ddweud wrthyn nhw yw bod y system yn gweithio mor galed ag y gall, mae'n ennill tir nid colli tir, a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ariannol ond hefyd yn y staff sydd ei angen arnom ni i wneud yn siŵr bod ein GIG yn parhau i ddarparu'r driniaeth y mae'n ei darparu ar y lefel ddiwydiannol honno yr wyf i newydd ei disgrifio i chi o fis Awst yn unig.