Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:59, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Yn fy nghwestiwn cyntaf, Prif Weinidog, gofynnais i chi gefnogi ymrwymiad y dywedodd llefarydd iechyd y blaid Lafur yn San Steffan y byddai Llafur yn ei gyflawni, ac fe ddywedoch chi nad oedd modd ei gyflawni. Yn yr ail gwestiwn, gofynnais i chi roi ymrwymiad a map ffordd i ddileu'r arosiadau dwy flynedd yma yn y GIG. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, Richard Cooper, a gafodd ei hysbysu, i gael ei lawdriniaethau clun ar y GIG yma yng Nghymru—oherwydd roedd angen llawdriniaeth ar y ddwy glun—gallai ddisgwyl arhosiad o bedair i bum mlynedd i'r llawdriniaethau hynny gael eu cyflawni. Bu'n rhaid iddo ddefnyddio ei gynilion preifat ei hun i fynd i glinig yng Ngwlad Pwyl i gael y llawdriniaeth. Nawr, ni allaf gael ymrwymiad ar amseroedd ymateb meddygon teulu, ni allaf gael ymrwymiad ar arosiadau dwy flynedd gennych chi; beth yw'r cyngor y dylwn i ei roi i'm hetholwyr, fel Richard Cooper, sy'n gorfod defnyddio eu cynilion eu hunain, eu potiau pensiwn, oherwydd na allwch chi ddarparu gwasanaeth iechyd sy'n gallu diwallu anghenion pobl Cymru?