3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i Gymru

– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:57, 25 Hydref 2022

Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi ein fframwaith imiwneiddio cenedlaethol newydd. Mae brechu wedi bod yn rhan hanfodol o ddarpariaeth GIG Cymru i ddiogelu ein dinasyddion a'n cymunedau ers amser maith. Roedd y pandemig yn gofyn i ni feddwl yn wahanol am ddefnyddio brechiadau, yn enwedig yr angen i gael cynifer â phosib i'w cymryd ac i sicrhau tegwch. Mae'n rhaid i ni ddysgu'r gwersi hyn a'u cynnwys yn ein trefniadau yn y dyfodol, a thrwy'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol hwn y byddwn yn gwneud hynny. Mae arna i eisiau i'r fframwaith hwn alluogi newidiadau cadarnhaol i gyflawni a gwella trefniadau brechu a chynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechu ar draws ein holl raglenni brechu.

Cafodd y rhaglen trawsnewid brechiadau ei sefydlu yn gynharach eleni i edrych ar ddarparu gwasanaethau brechu er mwyn sicrhau bod y trefniadau'n addas i'r dyfodol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, a fraenarodd y tir ar gyfer rhaglen gyfunol i frechu yn erbyn COVID-19 a'r ffliw a lansiwyd ar 1 Medi. Mae'r rhaglen yn bwrw ymlaen yn dda, gyda'r ymgyrchoedd COVID-19 a'r ffliw bellach ar eu hanterth. Bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael gwahoddiad erbyn diwedd Tachwedd, a bydd y rhai sy'n gymwys i gael brechiad ffliw yn cael gwahoddiad erbyn diwedd Rhagfyr. Mae mor bwysig ein bod yn sicrhau bod cynifer â phosib yn cael y ddau frechlyn, ac rwy'n annog pawb i fynd i'w hapwyntiadau yr hydref hwn i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd.

Er mor bwysig ydynt, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'r fframwaith hwn yn ymwneud â llawer mwy na brechu yn erbyn firysau anadlol; mae'n cynnwys ein holl raglenni brechu, gan gynnwys brechiadau plentyndod. A llwyddiant ac arfer da'r rhaglenni yma sydd wedi bod yn sylfaen i'r broses drawsnewid. Yn wir, fe wnaethant ddarparu sail i'n rhaglen frechu COVID-19 sy'n arwain y byd.

Ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol imiwneiddio yng Nghymru yw bod cynifer â phosib yn cael brechlyn effeithiol mewn ffordd gynaliadwy ar yr adeg gywir i leihau salwch difrifol a marwolaeth. Mae arnom ni eisiau gweld gwasanaethau brechu sydd yn glir, lle mae pobl yn gwybod pa frechiadau y maent yn gymwys i'w cael, a sut i'w derbyn, gyda chynifer â phosib yn eu cael a thegwch yn y ffordd y gwneir hynny wrth galon dylunio a darparu gwasanaethau. Dyma'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol cyntaf i'w gyhoeddi ar gyfer Cymru, ac fe'i datblygwyd ar y cyd, gyda Llywodraeth Cymru a'r GIG yn gweithio fel un tîm i adnabod a defnyddio gwersi o'r pandemig i drosglwyddo i sefyllfa o well gweithredu rheolaidd ar gyfer pob rhaglen frechu.

Bydd atebolrwydd y byrddau iechyd yn parhau heb newid, gyda byrddau yn asesu angen lleol, comisiynu, rheoli perfformiad a gwerthuso'r ddarpariaeth yn unol â'r cyfeiriad strategol cenedlaethol. Ein bwriad yw cefnogi hynny, galluogi gwelliannau ac i sicrhau bod cymaint â phosib o bobl yn manteisio i'r eithaf ar ddiogelu pawb yng Nghymru. Bydd gan fwrdd gweithredu'r GIG ran allweddol yn y gwaith o gynllunio a rheoli perfformiad rhaglenni brechu yn y dyfodol.

Felly, mae'r fframwaith yn nodi chwe maes pwyslais allweddol, lle mae ein blaenoriaethau a'n disgwyliadau strategol yn cael eu gosod, a'r rhain yw tegwch brechu, brechu digidol, cymhwysedd, llythrennedd brechu cyhoeddus, rhoi a llywodraethu. Mae mwyafrif yr ymrwymiadau a amlinellir yn y fframwaith yn adeiladu ar arferion sydd wedi gweithio'n dda o'n profiad o raglen COVID-19 ac o hyblygrwydd hynny neu ar yr arferion gorau o raglenni presennol, hirsefydlog. Mae'r cyfan wedi'u nodi gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau ar lawr gwlad. Rydym ni'n gwybod nad yw niwed iechyd yn sgil COVID-19 wedi effeithio ar bobl yng Nghymru yn yr un modd. Roedd angen cefnogaeth benodol i alluogi ac annog grwpiau sydd wedi'u hesgeuluso i fanteisio ar y cynnig o frechu. Bydd pobl o gymunedau anoddach eu cyrraedd yn dod ymlaen i gael eu brechu, sy'n awgrymu bod hygyrchedd yn hytrach nac argaeledd yn rhwystr allweddol. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a dyna pam rydym ni wedi rhoi tegwch o ran brechu wrth wraidd dull brechu Cymru a'r fframwaith hwn.

Mae dealltwriaeth a diddordeb y cyhoedd yn hanfodol wrth gefnogi pobl i gael eu brechu, felly mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar hyn. Mae'n cynnwys blaenoriaethau ar gyd-gynhyrchu deunyddiau i gleifion, strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn, a hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth o frechu ymhlith y gweithlu iechyd a gofal, a ffigyrau cymunedol a dibynadwy, fel y gallant eirioli dros frechu a gwneud i bob cyswllt gyfrif.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:03, 25 Hydref 2022

Mae'r fframwaith yn ymrwymo i greu adnodd imiwneiddio craidd mewn byrddau iechyd. Mae'n newid strwythurau llywodraethu i sicrhau goruchwyliaeth a rheolaeth briodol ac integredig i'r holl raglenni brechu a llifoedd gwaith i drawsnewid y seilwaith digidol ar gyfer brechu, sy'n cynnig cyfleoedd enfawr i wasanaethau a dinasyddion.

Ymrwymiad arall o bwys yn y fframwaith yw symud i broses gaffael ganolog ar gyfer brechlyn y ffliw. Rŷn ni wedi gweld lefelau digynsail yn manteisio ar y brechlyn yn ein rhaglen COVID-19. Dwi'n derbyn bod hyn yn rhannol oherwydd y cyd-destun, ond mae peth o'r diolch hefyd i'r ffordd y mae'r system wedi meithrin cysylltiadau a chynnwys grwpiau sydd wedi bod yn anodd eu cynnwys yn y gorffennol. Dwi am i'r pwyslais hwn ar ddiogelu iechyd gael ei ddefnyddio yn y rhaglen ffliw yn y dyfodol hefyd. Gallwn ni ddim disgwyl i ddarparwyr gofal sylfaenol ysgwyddo'r risg o archebu mwy o'r brechlyn. Rŷn ni'n cydnabod bod yn rhaid cadw'r risg hon ar lefel genedlaethol, felly rŷn ni'n archwilio sut allwn ni symud at fodel caffael cenedlaethol o 2024 ymlaen.

Bydd darparwyr gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, yn dal i chwarae rhan bwysig iawn wrth ddarparu brechlyn y ffliw a rhaglenni brechu eraill ar ôl 2024. Maen nhw'n elfen hollbwysig o'r opsiynau y dylid eu rhoi i ddinasyddion er mwyn sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o bobl yn manteisio ar y brechlynnau. Rŷn ni'n gweithio'n agos gyda phawb sy'n rhan o'r gwaith hwn i roi'r newidiadau ar waith.

Mae cyhoeddi’r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yn garreg filltir allweddol sy'n dangos ein bod wedi symud i gyfnod gweithredu'r rhaglen drawsnewid frechu. Rŷn ni'n disgwyl y bydd y broses o bontio i'r trefniadau newydd yn digwydd yn ystod 2023 a 2024. Drwy gydol y cyfnod gweithredu, bydd y rhaglenni presennol yn parhau i gael eu cyflawni'n effeithiol, a bydd ein trefniadau llywodraethu yn adlewyrchu hyn. Uned gyflawni'r gwasanaethau iechyd fydd yn goruchwylio'r gwaith gweithredu, a bydd yr uned yn dod yn rhan o waith gweithredu'r gwasanaeth iechyd yn 2023, gyda Llywodraeth Cymru yn symud i rôl oruchwylio. Rŷn ni wedi ymrwymo i barhau i weithio ar y cyd yn ystod y cyfnod gweithredu, a'r bwriad yw cyhoeddi diweddariad yn 2023 i roi gwybod am y cynnydd sy'n digwydd o ran y newidiadau a'r ymrwymiadau sydd wedi'u nodi yn y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Diolch.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:06, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a chi wedi datgan droeon trwy gydol y pandemig y byddai'r wyddoniaeth yn arwain eich Llywodraeth. Rwy'n cytuno, wrth gwrs, gyda'r dull hwnnw hefyd, a sefydlodd y Llywodraeth y gell gynghori dechnegol sydd hefyd wedi derbyn argymhellion y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, o ran pa grwpiau ddylai gael brechiadau COVID. Nawr, yn eich fframwaith, rydych yn nodi eich bod yn cael eich tywys gan gyngor y cyd-bwyllgor, ond mae'r fframwaith hefyd yn mynd ymlaen i ddweud,

'Wedi dweud hynny, hyd yn oed mewn rhaglenni sydd fel arfer

yn sefydlog, bydd angen ymateb brys a chyflym weithiau'.

Felly dim ond eisiau gofyn oeddwn i beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun pryd rydych chi'n aros am gyngor gan y cyd-bwyllgor. Wrth gwrs, mae'r cyd-bwyllgor yn sefydliad hynod bwysig, sy'n cynnwys clinigwyr ac arbenigwyr ar draws y DU, ac asiantaeth diogelwch iechyd y DU. Mae hefyd yn rhoi argymhellion i holl awdurdodau iechyd y DU ar frechiadau eraill, nid dim ond COVID-19. Felly dim ond ceisio gofyn i chi ydw i pa ddyfodol ydych chi'n gweld sydd i'r cyd-bwyllgor, er enghraifft, a gaiff ei swyddogaeth ei gryfhau, neu ydych chi'n cymryd safbwynt gwahanol?

Darllenais hefyd gyda diddordeb, Gweinidog, yr adran ar frechu'n ddigidol, ac mae'n nodi eich bod wedi comisiynu Iechyd a Gofal Digidol Cymru—Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt—i adolygu'r holl systemau brechu, ond eich bod yn chwilio am atebion tymor byrrach. Felly, rwy'n ymwybodol bod y system imiwneiddio Gymreig bresennol wedi'i sefydlu yn ystod y pandemig i gofnodi a rheoli darparu brechlynnau COVID, ond rwyf hefyd wedi cael gwybod bod y gwasanaeth gwybodeg, neu y gall fod, yn feichus ac yn anhyblyg, felly efallai y gallech roi barn ar hynny. Ond, er y bu'r system, efallai, yn ddigonol i gofnodi brechlynnau COVID a drefnwyd ymlaen llaw, rwy'n dyfalu efallai na fydd y system yn debygol o fod yn briodol yn ei ffurf bresennol i gofnodi brechlynnau ffliw a brechiadau eraill y gallai fod eu hangen ar gleifion. Felly tybed, Gweinidog, p'un ai, felly, rydych chi'n disgwyl i'r gwasanaeth gwybodeg ddod y brif system TG ar gyfer rheoli a chofnodi brechlynnau yn y dyfodol, ac os felly, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r system fel ei bod yn fwy hyblyg, llai biwrocrataidd a symlach i'w defnyddio?

Byddai diweddariad cyflym ynghylch brechiadau ffliw a COVID ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi. Rwy'n gwybod eich bod chi, neu rwy'n credu bod eich swyddogion, wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd yn hynny o beth, felly byddai diweddariad ar hynny'n cael ei werthfawrogi. Ac yn olaf, Gweinidog, darllenais gyda hyfrydwch eich bod wedi sôn am ddefnyddio ap hir-ddisgwyliedig GIG Cymru yn y fframwaith, ond does dim gwybodaeth ynglŷn â phryd y bydd hyn yn digwydd. Fydd hyn cyn y gaeaf, o fewn y chwe mis nesaf, y flwyddyn nesaf? Rydym yn aros am rywbeth a fydd yn chwyldroi mynediad cleifion i apwyntiadau, presgripsiynau a mwy, felly allwch chi gadarnhau pryd y cyflwynir hynny? Diolch, Gweinidog.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:09, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Russell. Rydym ni, trwy gydol y pandemig, wedi bod yn dilyn cyngor y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi'i ymgorffori mewn gwyddoniaeth a dull gweithredu clinigol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn amlwg, os oes adegau pan fydd angen i ni weithio ar gyflymder, maen nhw hefyd wedi dangos, yn ystod y pandemig, y gallan nhw hefyd weithio ar gyflymder. Rwy'n credu y byddai'n rhaid i ni gael rheswm eithaf da i gefnu ar gyngor y cyd-bwyllgor, felly yn sicr dyna'r model rydym ni wedi'i ddilyn hyd yn hyn.

O ran brechu digidol, byddwn ni'n datblygu taith frechu ddigidol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bydd hynny'n cynnwys cofnod brechu integredig, cydsyniad digidol ac ymarferoldeb archebu a chyfathrebu a chofnodi gwell. Felly, fel rydych chi wedi ei nodi, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn mynd i adolygu'r holl systemau brechu. Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn cyfathrebu â'i gilydd, felly mae rhyngweithrededd yn gwbl allweddol, a dyna beth maen nhw'n gweithio i'w wneud. Felly, wrth feddwl am atebion digidol tymor hir, bydd angen i ni gael rhai atebion tymor byrrach i wneud gwelliannau ar unwaith. Mae cynlluniau gwella digidol presennol a fydd yn cysylltu â phethau fel ein portffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol, yr adnodd data cenedlaethol a'r gwasanaethau digidol i gleifion a rhaglen gyhoeddus.

Mae ap GIG Cymru—. Iawn, rwy'n mynd i ddweud wrthych chi'n dawel, Russell. Mewn gwirionedd mae'n cael ei brofi ar hyn o bryd; mae wedi cael ei brofi. Yr hyn mae arnom ni eisiau ei wneud yw sicrhau ei fod yn gweithio a bod y swyddogaeth yn gweithio. Mae'n rhaid cael tri mater allweddol iawn sy'n gwneud iddo weithio'n dda. Un yw bod angen i'r darnau technegol weithio'n dda. Yr ail yw eich bod angen i'r claf allu ei ddefnyddio, ac felly gwneud yn siŵr ei bod yn broses syml iawn y gall pawb ei ddefnyddio. A'r trydydd yw bod angen, er enghraifft, i feddygon teulu i allu cysylltu ag ef. Felly, mae hynny'n cael ei brofi ar hyn o bryd mewn gweithrediad byw go iawn; mae 1,000 o bobl yn ei ddefnyddio wrth i ni siarad. Felly, mae pethau'n dod yn eu blaen, ond yr hyn nad ydw i eisiau ei wneud yw lansio rhywbeth, fel y gwnaethon nhw yn Lloegr, y mae'r holl feddygon teulu wedyn yn ei ddiffodd oherwydd ei fod yn rhy llethol. Dim ond ceisio sicrhau ydym ni ein bod ni'n ystyried pethau a ddim yn ei lansio'n ffurfiol nes ein bod ni'n hollol sicr bod y peth yn mynd i weithio. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:12, 25 Hydref 2022

Diolch am y datganiad. Dwi'n eiddgar, wrth gwrs, i gadarnhau cefnogaeth frwd y meinciau yma i raglenni brechu yn gyffredinol a'u cyfraniad nhw at iechyd y genedl. Mewn ffordd, mae'n od, tra'n croesawu'r fframwaith newydd, nad oedd gennym ni fframwaith ynghynt, mor bwysig ydy brechu fel rhan o'r tirwedd iechyd yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, rydyn ni wedi bod drwy gyfnod lle mae yna fwy o sylw wedi cael ei roi i frechiadau nag ar unrhyw gyfnod yn ein hanes ni, debyg iawn, efo'r pandemig. Un cwestiwn ar raglen frechu'r pandemig. Mae'r Llywodraeth yn dweud bod rhaglen booster yr hydref yn mynd yn iawn, ond mae'r ffigurau yn awgrymu bod yr uptake yn llai nag y mae o wedi bod, yn enwedig pobl immunosuppressed. Tybed all y Gweinidog ymchwilio, neu roi ymrwymiad i ymchwilio i pam fod yr uptake wedi bod, mae'n ymddangos, gymaint llai yr hydref yma. 

Ond yn ôl at y datganiad yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod y chwe maes ffocws yn y fframwaith yn synhwyrol. Dwi'n croesawu'n arbennig, mae'n rhaid dweud, y sylw sydd yna ar anelu am system lle mae pawb yn gyfartal, lle mae pawb yn cael mynediad cyfartal at frechiadau, achos ar hyn o bryd, fel mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, nid dyna yr achos.

Dwi am roi sylw i un peth yn benodol yn fan hyn. Mae'r datganiad yn cyfeirio at y bwriad i greu system gaffael ganolog ar gyfer brechiad y ffliw o 2024 ymlaen. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae meddygfeydd yn caffael brechiadau eu hunain yn uniongyrchol gan gyflenwyr. Mae'r Alban wedi dweud yn barod eu bod nhw'n troi at system gaffael ganolog, lle mae'r byrddau iechyd yn prynu'r holl frechlynnau ac yn eu dosbarthu nhw yn lleol. Rŵan, tra bod yna fanteision, dwi'n meddwl, i symud i system ganolog fel hyn ar gyfer yr hirdymor, mae'n bwysig, dwi'n meddwl, ar y pwynt cynnar yma yn y trafodaethau, i gadw mewn golwg yr heriau sy'n debyg iawn o godi, ac rydyn ni'n gwybod hynny o brofiad yr Alban. Pan wnaeth yr Alban gyflwyno'r system, mi wnaethon nhw sylweddoli (1) y byddai hi'n cymryd cyfnod o bosib tair blynedd i gyflwyno system fel hyn, ond (2) y byddai fo'n cael effaith negyddol ar y fferyllfeydd—ar y meddygfeydd, sori. Mi oedd angen ymateb i'r ansicrwydd yna; beth wnaethon nhw, fel Llywodraeth yr Alban, oedd rhoi £5 miliwn yn ychwanegol i wneud yn siŵr bod y broses nid yn unig yn cyflymu, yn digwydd yn effeithiol, ond, yn fwy na hynny, yn digolledi meddygfeydd yn ystod y cyfnod cychwynnol yna. Felly, gaf i ofyn a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i gydweithio'n agos iawn â meddygon a meddygfeydd i chwilio am ffyrdd o liniaru'r effeithiau negyddol posib yna, os bydd hwn yn cael ei gyflwyno? A hefyd a wnaiff hi gytuno i ystyried dilyn esiampl yr Alban a chynnig cymorth ariannol penodol lle bo angen gwneud hynny?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:16, 25 Hydref 2022

Diolch yn fawr. Wel, jest o ran y booster, felly, dwi'n falch o ddweud, ar yr ail ar bymtheg o'r mis yma, roedd 471,488 o bobl wedi cael y booster. Mae targed gyda ni o 75 y cant. Dwi'n falch o ddweud, os ydych chi mewn cartref gofal, rŷn ni lan at 74 y cant eisoes. Felly, mae hwnna ymhell o flaen ein targed ni. Rŷn ni yn poeni rhywfaint am staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal a staff yn y byrddau iechyd, felly dwi'n gwybod bod chief executive yr NHS wedi ysgrifennu nawr at y byrddau iechyd i ofyn iddyn nhw roi tipyn bach mwy o ymdrech i gael staff. Dwi'n gwybod eu bod nhw wedi blino a'u bod nhw'n gwneud ymdrech fawr, ac efallai mai pwysau gwaith sydd wedi'u stopio nhw rhag gwneud hynny, ond mae yn bwysig iddyn nhw ddiogelu eu hunain wrth inni fynd i mewn i beth rŷn ni'n gwybod fydd yn aeaf caled. Rŷch chi'n iawn ynglŷn â'r grŵp risg yna: felly, rŷn ni'n edrych ar tua 7 y cant o bobl o bump i 49, ond dyw'r ffocws ddim wedi bod ar hynny eto; rŷn ni yn ei gwneud hi mewn trefn blaenoriaeth, a dyna pam rŷn ni wedi sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio'n gyntaf ar y cartrefi gofal yna.

O ran y system caffael cenedlaethol, yn amlwg dyw hwn ddim yn mynd i ddigwydd yfory, ond mae hyd yn oed beth sydd wedi digwydd eleni, lle rŷn ni wedi gweld GPs, er enghraifft, yn prynu'r y flu vaccine—dydyn nhw ddim wedi ordro digon ac rŷn ni wedi gorfod camu mewn fel Llywodraeth. Felly, eisoes, rŷn ni'n camu i mewn, ac, wrth gwrs, mae hwnna'n golygu bod arian ychwanegol yn mynd mewn. Ond, os ydych chi'n mynd i system caffael cenedlaethol, rŷch chi'n fwy tebygol o gael gwell dêl hefyd, felly dwi yn gobeithio y bydd hwnna'n gwneud gwahaniaeth.