Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 25 Hydref 2022.
Nawr, mae gan Gymru gydnerthedd cynhenid. Mae busnesau Cymru wedi camu i'r adwy ac wedi datblygu gallu rhyfeddol i addasu i'r heriau anoddaf. Yr ysbryd hwn sydd wedi cynnal cymaint o fusnesau yn ystod ansicrwydd y cyfnod diweddar. Yn gwrthgyferbynu yn llwyr â Llywodraeth y DU, mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed yn ogystal â rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Roedd yr uwchgynhadledd yn gynharach y mis hwn yn enghraifft ardderchog o dîm Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i feintioli problemau a chynnig datrysiadau.
Fe fyddaf i'n cwrdd â rhanddeiliaid allweddol unwaith yn rhagor ar ddechrau mis Tachwedd i gael eu hadborth nhw ynglŷn ag ymdrechion Llywodraeth y DU i sefydlogi'r economi yn dilyn y gyllideb Calan Gaeaf. Y gobaith yw y gallwn ni asesu gyda mwy o sicrwydd wedyn o ran yr ystod o gymorth sydd ei angen yma yng Nghymru a'r ysgogiadau ymarferol sydd ar gael i ni os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ac yn torri cyllideb Llywodraeth Cymru eto.
Ond, heddiw, fe hoffwn i nodi pum mlynedd ers sefydlu Banc Datblygu Cymru, banc datblygu rhanbarthol cyntaf y DU, a sôn am fy uchelgeisiau ar gyfer ei ddyfodol. Mae'r banc datblygu wedi tyfu i reoli arian gyda chyfanswm o tua £2 biliwn, ac wrth wneud hynny mae wedi dod yn rhan allweddol o'r ecosystem datblygu economaidd a chyllid yma yng Nghymru. Mae'r banc â rhan ganolog wrth ariannu busnesau sydd â chynlluniau busnes cadarn ond sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid o'r farchnad. Mae'n gwneud hyn drwy weithio law yn llaw yn gyfochrog â'r cyngor a'r cymorth sy'n cael eu darparu gan Busnes Cymru a thrwy gysylltiadau clos iawn â banciau prif ffrwd a chyd-fuddsoddwyr eraill, lle mae'n llunio rhan yn unig o'r pecyn buddsoddiad yn ei gyfanrwydd. Drwy fynd i'r afael â bylchau yn y farchnad, mae'r banc yn caniatáu i fusnesau gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Dros bum mlynedd gyntaf ei fodolaeth, mae'r banc wedi rhagori ar nodau buddsoddi, gan gyflawni effaith economaidd o £1.2 biliwn. Fe gyrhaeddodd buddsoddiad cyffredinol o ran dyled ac ecwiti £110 miliwn yn 2021-22 yn ôl bwriad, a bennwyd yn ôl yn 2017, i gyrraedd £80 miliwn erbyn y flwyddyn honno.
O ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gymryd rheolaeth uniongyrchol ar y rhaglenni a addawyd yn lle'r rhaglenni a oedd yn cael eu hariannu gan yr UE, mae'r dirwedd ariannu yn llawer mwy cymhleth erbyn hyn nag yr oedd hi bum mlynedd yn ôl. Mae'r ffaith bod ein banc datblygu ein hunain sydd â digon o gyfalaf gennym ni nawr yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i helpu i ysgogi datblygiad economaidd.
Wrth gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf, rydym ni wedi ystyried y dirwedd newidiol hon o ran ariannu, sy'n cynnwys arian newydd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain. Gyda'i gilydd, mae hi'n bosibl y bydd yr arian hwn yn dod â thua £35 miliwn y flwyddyn o gyfalaf ychwanegol i Gymru. Mae hwnnw'n ddatblygiad i'w groesawu, a fydd, o'i gyfuno â'r buddsoddiadau blynyddol a fwriedir gan y banc datblygu, sydd am godi i dros £120 miliwn y flwyddyn dros yr un cyfnod, yn helpu i sicrhau y bydd mwy o fusnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar gyllid. Fe fydd y banc datblygu yn cydweithio yn glos â nhw i sicrhau bod eu buddsoddiad oddi wrth brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain yn ategu ei gilydd ac yn cefnogi busnesau ledled ein cenedl ni.
Yn ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n amlinellu ein huchelgais i gynyddu'r defnydd o gyfran ecwiti mewn cymorth busnes. Fe all buddsoddi ecwiti gefnogi busnesau arloesol sydd â thwf dichonadwy, gan greu swyddi o werth mawr a rhoi hwb i allforion. Mae cyfran ecwiti nid yn unig yn dod ag adnodd y cyllid ond ag arbenigedd i fusnesau hefyd, ac fe all fod yn gatalydd pwerus ar gyfer twf economaidd hirdymor.
Hyd yn hyn, mae ein banc datblygu ni wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti mewn busnesau yng Nghymru, sydd, ochr yn ochr â buddsoddwyr eraill, wedi eu helpu i godi dros £200 miliwn. Rwyf i wedi rhoi gorchwyl i'r banc datblygu i anelu at nod o £100 miliwn o leiaf o ran cyfanswm buddsoddi ecwiti, a all, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddi'r sector preifat, gyflawni dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau arloesol—chwistrelliad o gyfalaf a fydd yn helpu i greu swyddi newydd, ehangu sectorau twf newydd yn ein heconomi, a helpu i ddiogelu safle Cymru i'r dyfodol.
Bydd y buddsoddiad ecwiti newydd hwn yn cael ei gyfeirio yn fwy uniongyrchol eto hyd yn oed, gyda chefnogaeth arall gan Lywodraeth Cymru, o gyngor busnes hyd gymorth arloesi, sy'n ei wneud yn gynnig cyflawn a'r gorau o'r fath. Wrth symud ymlaen, fe fydd gan fusnesau sy'n cael buddsoddiad ecwiti gefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi. Rydym ni o'r farn y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi cwmnïau technoleg newydd cyffrous i fynd â'u cynnyrch o fod yn gysyniad cynnar hyd at ei farchnata, a rhoi cymorth i fusnesau uchelgeisiol i anelu at fod â thwf cryf, a thimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw yn eiddo Cymru. Ac yn wir, dim ond amser cinio heddiw, cyn bod yn bresennol yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, bûm mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol. Ac i'r rhai sydd â diddordeb, roedd Huw Lewis yn bresennol hefyd, gynt o'r parthau hyn, yn ei swydd newydd ef.
O bryder uniongyrchol i fusnesau yw'r heriau sy'n cael eu hachosi gan gostau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni. I helpu busnesau, fe fydd y banc datblygu yn parhau i gynnig hyblygrwydd i'w cwsmeriaid nhw drwy ymataliad a gwyliau ad-dalu lle bo hynny'n briodol. Er bod cyfraddau llog ar fenthyciadau'r banc datblygu wedi cael eu pennu wrth eu rhoi nhw—mae hynny'n amddiffyn y cwsmeriaid hyn rhag yr anwadalwch presennol—rydym ni'n gwybod hefyd nad y cyfraddau yw'r unig fater, ac fe all busnesau fod â ffydd fod y banc wedi ymrwymo i weithio gyda nhw drwy'r cyfnod anodd hwn.
Mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig wrth gefnogi pontio busnes ar egwyddor 'buddsoddi i arbed' ac mae cyllid ganddo ar waith eisoes i gefnogi busnesau ar eu taith hyd at sero net. Ar hyn o bryd, mae'r banc yn datblygu cynllun newydd yn gyflym a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n darparu ar gyfer datgarboneiddio. Ei nod fydd cynnig telerau ad-dalu sy'n fwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chymorth fel arall, megis cymorth tuag at gostau ymgynghori, yn rhan o'r cynnig hwn i alluogi busnesau i fanteisio ar y lwfansau cyfalaf hael presennol a sicrhau eu bod nhw â ffydd fod y technolegau a'r datrysiadau sy'n cael eu mabwysiadu yn addas ar eu cyfer nhw. Rwy'n gofyn i'r banc datblygu wneud popeth yn ei allu i gyflymu ei gynlluniau er mwyn i'r gwaith cyflenwi ddechrau eleni, gan sicrhau buddugoliaeth ddwbl i fusnesau cymwys drwy eu helpu nhw i dorri costau ynni'r dyfodol a symud ymlaen â'n huchelgais gyffredin ni o ran datgarboneiddio.
Mae Banc Datblygu Cymru yn ased i'r genedl. Mae'n parhau i helpu busnesau ledled Cymru i oroesi, tyfu a ffynnu. Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnodd hyd yn hyn ac mae gennyf i ffydd yn y cynlluniau sydd ganddo i gyflawni fy uchelgeisiau i o ran dyfodol yr economi yng Nghymru.