4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:27, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma a llongyfarch y banc datblygu ar gyrraedd ei ben-blwydd yn bump oed? Nawr, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn agored iawn i graffu gan Bwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig, ac rwy'n gwybod bod yr Aelodau yn croesawu'r gallu i holi'r tîm ynglŷn â'i fuddsoddiadau a'i gynnydd. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn briodol yn cydnabod bod economi Cymru yn dibynnu mwy ar fusnesau bach, ac felly mae hi'n hollbwysig bod y banc datblygu yn ymestyn at fentrau bach a chanolig ac yn cynnig cefnogaeth. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y banc datblygu â swyddogaeth ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau, ond nid yw yn dweud yn iawn wrthym ni sut mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut yn union y mae'r banc datblygu yn gweithio gyda busnesau bach yn benodol, o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol.

Mae datganiad heddiw yn tynnu sylw at waith da iawn gan y banc datblygu. Mae hi'n wych clywed ei fod wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti i fusnesau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i fusnesau ym mhob rhan o Gymru, ac felly fe allai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y banc yn codi ymwybyddiaeth o'i wasanaethau i fusnesau ym mhob cwr o'r wlad.

Mae'r Gweinidog wedi rhoi nod i'r banc o gyfanswm o £100 miliwn o ran buddsoddi ecwiti, sydd, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddiad y sector preifat, yn gallu darparu dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau. Fe fydd gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr yn hanfodol os yw'r banc yn dymuno i'w fuddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru fod â'r effaith fwyaf. Wrth gwrs, ar gyfer gwneud hynny, mae'n rhaid i'r banc barhau i annog y sector preifat i fuddsoddi ochr yn ochr ag ef ei hun, ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud i gynyddu'r cyd-fuddsoddiad hwnnw.

Nawr, rydym ni'n gwybod am effaith aruthrol pandemig COVID ar fusnesau yng Nghymru, ac mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig o ran cefnogi adferiad economaidd a chefnogi busnesau. Mae hi'n hanfodol nad yw dull sy'n trin pawb yr un fath trwy'r amser yn cael ei fabwysiadu gan y banc, ac rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn siarad am gynnig hyblygrwydd i'w gwsmeriaid trwy ataliad a gwyliau ad-dalu. Mae datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau oherwydd costau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni y mae busnesau yn eu hwynebu ac felly efallai gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut y gall y banc roi cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer busnesau o ran yr heriau penodol hyn.

Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y swyddi sy'n cael eu creu gan y banc datblygu, ac mae swm o waith da wedi bod yn mynd rhagddo i nodi a mesur cynhyrchiant hefyd. Yn ôl cynllun corfforaethol y banc, ei nod o ran swyddi sylfaenol ar gyfer 2022 i 2027 yw 20,000 o swyddi, ond mae hi'n hanfodol bod cyfran o feintioli ansawdd swyddi. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod llwyddiant o ran swyddi, a'r hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i Lywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.

Mae'r Gweinidog wedi dweud yn eglur heddiw y bydd busnesau sy'n derbyn buddsoddiad ecwiti yn cael cefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi nhw. Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd y banc yn cefnogi cwmnïau technoleg newydd i ddwyn eu cynnyrch nhw ymlaen o gysyniad cynnar hyd at y farchnad, yn ogystal â busnesau sy'n anelu at dwf mawr, a thimau rheoli i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru.

Rydw i, wrth gwrs, yn croesawu'r uchelgais yma, ac fe wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae'r banc yn buddsoddi mewn busnesau newydd ym maes technoleg newydd yn benodol. Mae rhywfaint o waith da wedi digwydd ynghylch cronfa sbarduno technoleg Cymru, ond mae angen gwneud mwy, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach y gall y Gweinidog ei rhoi yn hyn o beth.

Yn yr un modd, mae hi'n bwysig fod yna gefnogaeth i dimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau cyfredol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru. Hyd yma, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru, wedi bod yn cynnig llwybr ariannu posibl ar sail dyled i'r gweithwyr allu prynu eu busnesau. Ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth ar gael i reolwyr brynu busnesau drwy gronfa olyniaeth rheoli Cymru, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r cronfeydd hynny'n cael eu gwerthuso a'u monitro, er mwyn i ni sicrhau bod y gefnogaeth briodol ar gael i fusnesau.

Ac yn olaf, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at waith y banc datblygu i hyrwyddo trawsnewid yng Nghymru i amgylchedd busnes sy'n cynnig cryn dipyn yn fwy o ran datgarboneiddio. Mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn natblygiad cynllun newydd a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca ar gyfer ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio. Yn wir, mae adroddiad blynyddol y banc yn dangos bod 41 y cant o'i gwsmeriaid wedi mynegi eu bod yn cael eu hysgogi i weithredu ynglŷn â newid hinsawdd, ond nad yw'r arbenigedd hwnnw ganddyn nhw mewn gwirionedd. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy wrthym ni am y cynllun newydd sy'n cael ei ddatblygu a phryd mae hwnnw'n debygol o fod ar waith.

Felly, wrth gloi, Llywydd dros dro, rydym ni'n gwybod mai un o brif themâu'r banc yw buddsoddi mewn busnesau sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth yn ein cymunedau ni, ac mae'n rhaid i ni gofio bod y banc, yn ei hanfod, yn fuddsoddwr sy'n ceisio creu effaith sydd â phwrpas cymdeithasol. Ac, felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma, a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am waith y banc datblygu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf? Diolch i chi.