5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:25, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Peter. Rwy'n cofio hynny'n iawn, gyda phleser mawr hefyd. Ac un o'r pethau mae arnom ni eisiau ei wneud yw cynorthwyo cynghorau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n gwneud nifer o bethau eraill hefyd—felly, er enghraifft, gwella bioamrywiaeth, annog plannu coed o gwmpas yr ymylon ac ati, yr holl bethau y gwnaethom ni eu trafod yng nghais sir Fynwy, ac, mewn gwirionedd, gyda nifer fawr o awdurdodau eraill ledled Cymru.

Felly, mae gennym ni strategaeth ynni rhanbarthol—rwy'n siŵr eich bod yn cofio hyn; roedd yn destun cryn sgwrsio—ac rydym ni wedi cefnogi pob rhanbarth i adnabod faint o newid sydd ei angen i gyrraedd system ynni carbon isel ar gyfer ei ranbarth. Roedd y strategaeth ranbarthol yn gosod yr uchelgais honno. Nid oes ganddyn nhw ddigon o fanylion ynddyn nhw ar hyn o bryd i lywio'r cam cyflawni gwirioneddol, ond byddant yn sail i'n cynllun ynni ar gyfer Cymru. Byddwn ni wedyn yn mynd i lawer mwy o fanylion drwy'r cynlluniau ynni ar gyfer ardaloedd lleol—rydym ni wedi arbrofi gyda Chonwy a Chasnewydd, y credaf i mi grybwyll yn barod—ac yna byddwn yn cyflwyno hynny i bob awdurdod lleol ar gyfer cefnogaeth debyg, gan gyflawni ein hymrwymiad i bob ardal yng Nghymru gael cynllun ynni lleol manwl erbyn mis Mawrth 2024. Bydd hynny'n ein helpu i siarad â gweithredwr y grid, a fydd, gobeithio, nawr yn weithredwr grid wedi'i gynllunio, am beth yw'r gofyniad ynni ym mhob un o'r meysydd hynny a beth yw'r gofyniad effeithlonrwydd ynni ym mhob un o'r meysydd hynny, drwy'r gwasanaeth ynni a thrwy'r cynlluniau ardal, a wneir gyda'n partneriaid awdurdod lleol, na fydden ni hebddyn nhw yn gallu gwneud dim o hyn, wrth gwrs. Ac yna bydd hynny'n rhoi'r cynllun sgerbwd ar gyfer cynllun ynni cenedlaethol Cymru, sef y glasbrint i arwain grid cydlynol—haleliwia, greal sanctaidd grid cydlynol—wedi ei gynllunio am y tro ac at y dyfodol, gyda'r llinellau grid ar hyd y gogledd a'r de yn cael eu huwchraddio, ond hefyd i lenwi'r hyn sydd i bob pwrpas yn ddim grid ar draws rhannau helaeth iawn o ganolbarth Cymru.

Felly, rydym ni'n rhoi'r cynlluniau hynny ar waith, gyda'n partneriaid awdurdod lleol, ac mae Rebecca a minnau wedi cael llawer o sgyrsiau am hyn gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Mewn gwirionedd, mae'n eitem sefydlog yn y cyngor partneriaeth i fynd i'r afael â sero net a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Felly, rydym ni'n gwbl ddibynnol arnyn nhw i wneud hyn, ond maen nhw'n hapus iawn i'w wneud gyda ni, i gael y system arfaethedig gydlynol honno ar waith, felly rydym ni'n deall yr hyn sydd ei angen arnom ni, rydym ni'n deall beth yw ein huchelgais, gallwn ei gyflawni'n lleol ac ar y lefel genedlaethol newydd, fawr hon er mwyn cael yr elw gorau i bobl Cymru o'n hadnoddau naturiol toreithiog.