6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:07, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Hefyd, mae'n dda iawn clywed am gynnydd y ffoadures honno y gwnaethoch chi ei chyfarfod ar y stondin mor ddiweddar, a'r hyn a fu ei phrofiad—rhoi genedigaeth mewn lloches fomiau yn Kyiv—sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n parhau gyda'n cefnogaeth fel uwch-noddwr ac fel cenedl noddfa. Ac mae cymaint ohonom ar draws y Siambr hon wedi cwrdd â phobl sydd wedi cael yr un profiad, a hefyd sydd eisiau bwrw ymlaen a sefydlu busnesau, mynd i mewn i waith, bod yn annibynnol, dod yn ddinasyddion Cymru. Ni fyddai llawer wedi dychmygu eu bod nhw'n mynd i aros cyhyd; bydden nhw wedi gobeithio y byddai'r rhyfel drosodd ac y bydden nhw'n ôl gyda'u hanwyliaid. Mae'n rhaid i ni ystyried, bob amser, y ffaith bod eu hanwyliaid yn ôl, mae llawer ohonyn nhw yn ôl yn Wcráin, yn ymladd, yn amddiffyn eu gwlad. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i sefydlu busnes, i gael tai, i helpu i wneud eu cyfraniad, sy'n rhan o'r hyn yr wyf yn ei ddweud yn fy natganiad, ond hefyd cael Llywodraeth y DU i chwarae ei rhan. Nid mater i Gymru yn unig yw hwn, nid mater i'r DU yn unig—mae'n ymwneud â'r ymateb dyngarol Ewropeaidd cyfan sydd wedi bod mor bwysig.

Ond o ran mynediad at wasanaethau deintyddol, yn amlwg mae angen i ni sicrhau bod y rhai sydd gyda rhai sy'n lletya—. Efallai eto, mai cyfrifoldeb y rhai sy'n lletya yw cael yr wybodaeth. Rydym ni'n ariannu sefydliadau i gefnogi'r rhai sy'n lletya, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, fel eu bod nhw'n gallu edrych ar yr wybodaeth y maen nhw'n ei chael fel eu bod nhw—. Ni ddylai'r rhai sy'n lletya eu hunain dalu am y math yna o wasanaethau, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn gwybod lle i fynd, a'u cyfeirio nhw. Felly, fe fyddai'n ddoeth i Wcreiniaid gofrestru gyda deintydd cyn gynted â phosibl, ond efallai na fydd practis deintyddol yn cynyddu capasiti er mwyn derbyn cleifion newydd y GIG. Ond mae'r bwrdd iechyd lleol wedi cael y rhestr honno o feddygfeydd, a hefyd, os yw'n argyfwng deintyddol, yna dylai Galw Iechyd Cymru hwyluso mynediad at wasanaethau deintyddol cymunedol. Felly, os caf i ddweud hynny heddiw a'i roi ar gofnod: GIG 111 ar gyfer y bwrdd iechyd lleol er mwyn cael rhestr o feddygfeydd y GIG a 0845 46 47 ar gyfer Galw Iechyd Cymru, i'w cyfeirio nhw at wasanaeth deintyddol cymunedol.