Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi am y cyfle i roi diweddariad i'r Aelodau ar bont Menai. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, am 2 p.m. ddydd Gwener 21 Hydref, penderfynodd Llywodraeth Cymru gau pont Menai i'r holl draffig ar unwaith. Ni wnaed y penderfyniad ar chwarae bach; cafodd ei wneud ar sail diogelwch ar ôl cyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau gyda'r heddlu.
Mae pont Menai yn cael ei rheoli gan gwmni preifat, UK Highways A55 Ltd, fel rhan o fenter cyllid preifat sy’n cael ei alw yn gontract dylunio-adeiladu-ariannu-gweithredu, neu DBFO, ar gyfer yr A55 ar Ynys Môn a dolen Menai. Fel rhan o'u cyfrifoldeb cynnal a chadw, mae UK Highways wedi bod yn cynnal archwiliadau ar y bont. Maen nhw'n gwneud hyn i safon diwydiant bob dwy a chwe blynedd. Mae'r archwiliadau cyffredinol bob dwy flynedd yn archwiliadau gweledol lle archwilir pob rhan o'r strwythur, gan ddefnyddio binocwlars neu arolygon drôn o'r awyr fel arfer. Mae'r prif archwiliad yn digwydd bob chwe blynedd, ac mae'n cynnwys archwilio'r holl rannau y gellir eu harolygu o'r bont sydd o fewn pellter cyffwrdd. Mae'r arolwg manwl yn cynnwys archwiliadau gweledol, yn ogystal â thechnegau arbenigol megis arolygon tapio gyda morthwyl ar goncrit, neu fesur rhwd.
Fel rhan o'r prif arolygiad diwethaf yn 2019, nodwyd pryder am gadernid hongwyr sy'n cefnogi'r bont grog, ac arweiniodd at gyfyngiad pwysau yn cael ei osod ar y bont tra bod astudiaethau pellach yn cael eu cynnal. Adroddwyd yr arolygiad diweddaraf i Lywodraeth Cymru ddydd Mercher diwethaf, ac yn annisgwyl fe dynnodd sylw at bryder ar unwaith ynghylch mecanwaith methiant bregus yr hongwyr. Fel sy'n arfer safonol, fe wnaeth swyddogion adolygu’r canfyddiadau a’u herio. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor clir iawn gan beirianwyr strwythurol, ystyriwyd nad oedd opsiwn arall ond cau'r bont tra bod gwiriadau pellach ar y dadansoddiad yn cael eu cynnal gan ymgynghorydd annibynnol.
Fel rydw i’n ei ddweud, nid yw hyn yn benderfyniad a wnaed ar chwarae bach, ac rwy'n llwyr werthfawrogi goblygiadau i bobl leol, yn enwedig heb unrhyw rybuddion ymlaen llaw. Yn wreiddiol, fe wnaethom gynllunio ymgyrch gyfathrebu o flaen llaw i roi rhybudd i bobl, ond yn dilyn sgyrsiau pellach gyda'r heddlu ac yn seiliedig ar y cyngor, fe wnaethom ni benderfynu ei bod hi'n ddoeth cau'r bont ar unwaith. Mae diogelwch ein rhwydwaith a'r cyhoedd sy'n teithio yn hollbwysig, ac mae'r penderfyniad wedi bod yn seiliedig ar yr argymhellion diogelwch gan nifer o beirianwyr strwythurol, ymhlith y gorau yn y byd. Mae'r canfyddiadau a arweiniodd at yr argymhelliad i gau'r bont yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, fel sy'n safonol. Bydd yr adolygiad cychwynnol yn cymryd hyd at bythefnos. Mae swyddogion, ynghyd â rhanddeiliaid, yn asesu'r holl opsiynau sydd ar gael i ailagor y bont cyn gynted â phosib. Efallai y bydd angen gosod gwaith i gryfhau'r hongwyr dros dro er mwyn sicrhau diogelwch ac uniondeb pont Menai, a gallai'r rhaglen hon gymryd rhwng 14 ac 16 wythnos, gyda'r bont yn ailagor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell, eto ar ddechrau 2023.
Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r anghyfleustra mae hyn yn ei achosi. Yn amlwg, mae pont Menai yn gyswllt hanfodol i bobl y gogledd a thu hwnt, a hoffwn ddiolch i bobl leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y gwaith brys hwn yn digwydd. Ac rwyf i am eu sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda UK Highways a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys y gwasanaethau brys, i sicrhau y gellir gwneud hyn mor gyflym a diogel â phosibl. Mae'r holl draffig cerbydau bellach yn cael ei ddargyfeirio i bont Britannia, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar frys ar gynlluniau wrth gefn pellach yn yr ardal, a byddant yn parhau i fonitro'r tagfeydd i lywio newidiadau yn y dyfodol. Maen nhw hefyd yn datblygu strategaethau pellach i gynyddu cadernid ar bont Britannia i liniaru'r risg y bydd y ddwy bont yn cau mewn amgylchiadau eithriadol.
Gallaf gadarnhau, yn dilyn trafodaethau gyda UK Highways a'u harbenigwyr strwythurol, cytunwyd bod modd ailagor y llwybr troed ar draws y bont ar gyfer cerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau. Rhaid i gerddwyr aros ar y llwybr troed, a bydd y niferoedd yn gyfyngedig, a monitro'n digwydd. Mae swyddogion yn gweithio gyda UK Highways i helpu i gyfyngu’r effaith ar y gwasanaethau brys ac i ganiatáu eu cerbydau, sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell, ar draws pont Menai, os bydd A55 pont Britannia yn cau. Bydd hyn yn amodol ar y gwasanaethau brys yn bodloni meini prawf penodol a’r rheolaeth traffig, sy’n cael ei roi ar waith gan UK Highways, ei bod hi’n ddiogel i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Mae effeithiau'r cau yn newydd iawn. Mae swyddogion eisoes yn ystyried yr effeithiau a byddant yn parhau i fonitro'r rhwydwaith ffyrdd i weld beth y gellir ei wneud er mwyn lleddfu tagfeydd ymhellach. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach wrth i bethau fynd yn eu blaen, a hoffwn wahodd yr Aelodau lleol i sesiwn friffio technegol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, fel y gallant ofyn eu cwestiynau manwl eu hunain i fodloni eu hunain gyda’r penderfyniadau a'r camau nesaf. Byddwn i'n annog pobl leol i ymweld â gwefannau Llywodraeth Cymru a Traffig Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Unwaith eto, rwy'n hynod ddiolchgar i bawb fydd yn cael eu heffeithio gan hyn. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y bont cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Diolch.