7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Cau Pont Menai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:22, 25 Hydref 2022

Nid felly mae gwneud. Ond a oedd y gwaith cynnal a chadw, y gwaith paentio ac amddiffyn, wedi bod yn ddigon da? Yn sicr, dwi wedi bod yn gweld rhwd. Mwy nag arfer? Dwn i ddim; dwi ddim yn beiriannydd. Ond oedd Llywodraeth Cymru'n monitro'n ddigon da'r modd yr oedd UK Highways yn gwneud eu gwaith? Ac ai gwaith UK Highways oedd adnabod problemau'n gynnar—preventative maintenance schedule—neu ymateb i broblemau wrth iddyn nhw godi? Buaswn i'n mawr obeithio mai bod yn rhagweithiol oedd gofynion y cytundeb. 

Mae'n rhaid rhoi diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond hefyd mae angen asesu'n drylwyr ai cau oedd yr unig opsiwn. Oes modd symud yn gynt, yn ddiogel—hynny ydy, i ailagor? Ydw i'n iawn i ddeall mai asesu bydd yn digwydd am y tri neu bedwar mis nesaf, ac y gallai gwaith trwsio gymryd mwy na hynny?

A gadewch i mi droi at y pwynt olaf. Dwi ac eraill wedi rhybuddio'n hir am hyn. Rydyn ni angen croesiad newydd. Mi oedd Llywodraeth Cymru wedi addo croesiad, a dydy o dal ddim wedi digwydd. Mae yna bris i'w dalu am oedi—pris mewn punnoedd, pan fo chwyddiant mor fawr ag ydy o rŵan, ond pris cymunedol hefyd. Y ffaith bod cynllun Wylfa wedi dod i stop sy'n cael y bai yn aml, ond gadewch inni fod yn glir: nid ymateb i broblem traffig ydy'r angen am groesiad dual carriageway lle mae'r Britannia. Ydy, mae hi'n boen aros mewn ciw i groesi, ond, mewn difrif, gwytnwch—resilience—sydd dan sylw yn fan hyn. Dau groesiad sydd yna, ac mae un ohonyn nhw'n bont grog 200 mlwydd oed.

Mi fu ond y dim i mi gael cytundeb Llywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl i gael system tair lôn, system peak flow, ond bod peirianwyr y Llywodraeth wedi penderfynu yn y pen draw bod y bont yn rhy gul i hynny, yn enwedig o ystyried bod traffig yn ymuno efo pont Britannia ar gyflymder uchel. Efallai fod modd edrych ar weithredu rhywbeth felly dros dro rŵan. Ond y gwir amdani ydy bod angen ateb parhaol, gwydn. Un peth ydy bod yn ynys, peth arall ydy cael ein hynysu, a dyna'r realiti sydd wedi cael ei amlygu rŵan. Dwi'n edrych ymlaen at ymrwymiad o'r newydd i ailgydio, ar frys, yn y gwaith o ddatblygu croesiad newydd.