7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Cau Pont Menai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 5:34, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cwestiwn brys ar y mater hwn, ond yn amlwg fe wnes i ei dynnu'n ôl wrth i'r datganiad hwn gael ei gyhoeddi, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw. Mae'n cael ei werthfawrogi. Rydw i hefyd yn ddiolchgar, Dirprwy Weinidog, eich bod chi wedi ei gwneud yn glir yn eich datganiad ynglŷn â'r penderfyniadau ynghylch cau pont Menai a deall pwy sy'n gyfrifol am beth o fewn hynny. Fel sydd eisoes wedi ei grybwyll yma heddiw, mae cau pont Menai yn syth, sy'n gweld miloedd o gerbydau yn croesi bob dydd, yn peri pryder gwirioneddol, ac rwy'n gwerthfawrogi, Dirprwy Weinidog, eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y croesiad hwn i'r ynys ac i'r tir mawr fel ei gilydd.

Rydw i am godi cwpwl o bwyntiau, Llywydd. Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn fyr iawn, ond rydych chi eisoes wedi sôn, Dirprwy Weinidog, am y pwynt ynghylch y cynlluniau wrth gefn pan fydd gwyntoedd cryfion yn debygol o gau pont Britannia. Byddwn yn gofyn i chi rannu'r cynlluniau wrth gefn hynny, os nad ydyn nhw eisoes wedi cael eu rhannu, cyn gynted â phosib, fel bod busnesau a phobl leol yn gwybod sut y bydd hynny'n gweithio. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn.

Yn ail, o edrych ar y tymor hwy, mae'r rhaglen waith yn mynd i gymryd tua 16 wythnos i'w chwblhau, ac yna dim ond yn edrych i ailagor ar gyfer cerbydau hyd at 7.5 tunnell. Byddai'n ddiddorol cael gwybod pryd rydych chi'n rhagweld cerbydau trymach na 7.5 tunnell yn gallu croesi pont Menai yn y dyfodol, er mwyn creu'r capasiti ehangach yna sydd angen i groesi i'r ynys ac oddi arni.

Ac yna'n drydydd, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at hyn, a soniwyd amdano yn y datganiad, y ffaith i'r broblem hon gael ei hamlygu i ddechrau yn 2019, felly mae'n amlwg bod patrwm o bryder wedi bod dros gyfres o flynyddoedd a misoedd. Dydy hi dal ddim yn glir i mi pam, er bod patrwm o bryder wedi bod dros amser hir—rydyn ni'n edrych ar dair blynedd a mwy yma—bod penderfyniad uniongyrchol a sydyn y bu'n rhaid ei wneud heb rybudd i bobl leol ac i fusnesau fel ei gilydd. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi efallai ychydig mwy o eglurder pam nad chafodd y patrwm hwnnw o bryder ei ystyried yn iawn.

Ac yn olaf, Llywydd, dim ond apêl ar gyfer cyfathrebu rheolaidd ac o safon, os gwelwch yn dda, i drigolion a busnesau lleol yn yr ardal. Diolch yn fawr iawn.