7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Cau Pont Menai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:37, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, yn sicr, ar eich pwynt olaf, byddwn i'n gwerthfawrogi help pob Aelod i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyfathrebu'r negeseuon hyn gyda gonestrwydd a chynildeb i etholwyr. Mae naws gwyllt braidd wedi bod ymysg rhai pleidiau gwleidyddol dros y penwythnos i geisio creu rhywfaint o sgorio pwyntiau, sydd, yn fy marn i, yn amhriodol iawn ac nid yw'n helpu pobl i ddeall natur y problemau yr ydym ni'n delio â nhw. Felly, rwy'n gobeithio na fyddwn ni'n gweld mwy o hynny, a byddwn i'n hapus iawn i ymgysylltu â'r holl Aelodau sydd â diddordeb mewn sgwrs lawn a gonest am yr hyn sy'n digwydd a'r opsiynau wrth i ni fynd drwyddyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth lle na ddylai fod unrhyw le i wleidyddiaeth bleidiol, yn fy marn i.  

O ran y cynlluniau wrth gefn, rwy'n hapus i'w cyflwyno nhw i chi drwy lythyr, ond maen nhw fel maen nhw'n sefyll eisoes: rhybuddio a hysbysu gyrwyr o'n cyfyngiadau cynghori pan fydd eu hangen. Fel y dywedais i, anaml mae eu hangen nhw a hynny, yn gyffredinol, am gyfnodau cymharol fyr. Ac, fel y dywedais i, rydym ni'n gweithio ar strategaeth wrth gefn newydd i edrych ar opsiynau eraill, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf amdanyn nhw.

O ran pryd mae'r bont yn debygol o ailagor heb gyfyngiadau, wel, rwy'n credu bod hynny wir yn dibynnu ar y dadansoddiad o gyflwr yr hongwyr. Nid fy lle i yw dyfalu canlyniadau'r adroddiad peirianyddol, ond pa bai angen disodli pob un neu lawer o'r hongwyr, yna'n amlwg mae hynny'n mynd i fod yn ddarn sylweddol o waith. Ni fyddai'r cyfyngiad 7.5 tunnell, byddwn i'n dychmygu, yn gallu cael ei godi nes bod y peirianwyr yn argyhoeddedig bod hynny'n ddiogel. Ac o ystyried bod pryder am natur bregus yr hongwyr, mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n rhy gynnar i feddwl am godi cyfyngiadau yn gyfan gwbl nes bod yr asesiad llawn a'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud. 

Rwy'n meddwl mod i wedi ateb y cwestiwn am y diffyg rhybudd a chyflwr y bont. Mae archwiliadau rheolaidd wedi bod, ac mae'r rhain yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant. Nid yw hyn yn rhywbeth arbennig i bont Menai; dyma sy'n digwydd gyda phontydd eraill tebyg. Mae'n safon arolygu uwch na ffyrdd arferol, ac yn ogystal â bod yn amlach, mae'r gwiriadau sy'n digwydd o fewn y broses i lefel llawer uwch a mwy trylwyr, ac mae'r gwirio sy'n gysylltiedig â'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol a'r cwmnïau ac, ar wahân iddyn nhw, adolygiadau annibynnol gan gymheiriaid yn eithaf sylweddol. Dyna un o'r rhesymau pam ei bod wedi cymryd cyhyd, ers nodi'r broblem gyntaf yn 2019, oherwydd mae hwn yn ddull trylwyr a threfnus iawn, wedi'i wneud hyd braich oddi wrth ei gilydd i wneud yn siŵr ei fod yn gadarn. Felly, rwy'n credu y byddai'n annheg cynrychioli hyn fel ymateb araf i dystiolaeth o bryder. Rwy'n credu bod hwn wedi bod yn ddull trylwyr a threfnus, yn unol â safon y diwydiant ledled y byd, a dyna'r broses sydd wedi dangos i ni fod yna broblemau sy'n cyfiawnhau cau'r bont, felly rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu'n ddoeth ac yn gyfrifol. Ond fel y dywedais i mewn ateb i Rhun ap Iorwerth, byddwn ni wrth gwrs yn cynnal ymarfer dysgu gwersi, i weld a wnaed unrhyw gamgymeriadau a fyddai wedi ein hatal rhag cyrraedd y sefyllfa hon heddiw. Ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw un sydd wedi dod i'r amlwg hyd yn hyn.