Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:30, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae pobl yn ofni'r posibilrwydd o fethu fforddio'r pethau sylfaenol y gaeaf hwn, ac nid oes ganddynt lawer o ffydd y bydd Prif Weinidog hynod gyfoethog yn gwneud unrhyw beth drostynt. Yn absenoldeb cymorth digonol gan San Steffan, mae angen defnyddio'r cronfeydd sydd gan awdurdodau lleol wrth gefn ar gyfer diwrnodau glawog. Yn anffodus, mae gennych awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn cadw cronfeydd enfawr gwerth £180 miliwn wrth gefn. Cynyddodd y pentwr hwn o arian, sy’n fwy na chronfeydd wrth gefn yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru, £16 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig. Dyma pam fod fy nghyd-aelod o Blaid Cymru, y cynghorydd Greg Ead, wedi galw am gynyddu cronfa galedi costau byw cyngor sir Caerffili o £3 miliwn i £10 miliwn. A ddylai’r Llywodraeth osod terfyn ar feintiau cronfeydd wrth gefn er mwyn atal awdurdodau lleol Scrooge-aidd rhag eistedd ar gronfeydd enfawr o arian?