Mercher, 26 Hydref 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths.
1. Pa adnoddau ariannol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i'w helpu i ddelio â'r argyfwng costau byw? OQ58608
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r arweinyddiaeth etholedig newydd yng Nghyngor Sir Fynwy? OQ58622
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
3. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sut y gall helpu awdurdodau lleol i ddyfeisio cynlluniau wrth gefn i liniaru costau ynni uwch? OQ58616
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i gynnal eu gwasanaethau statudol? OQ58625
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllido awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58621
7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddiwygio polisi treth oherwydd yr argyfwng costau byw? OQ58603
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58609
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau ariannu ar ôl yr UE? OQ58617
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.
1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ58618
2. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o achosion o ffliw adar yn Sir Ddinbych? OQ58600
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
3. Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd o fudd i ffermwyr tenant ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58614
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar rasio milgwn? OQ58630
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fannau gwyrdd cymunedol? OQ58602
7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lledaeniad ffliw adar yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58624
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ffermwyr Cymru ar ôl y polisi amaethyddol cyffredin? OQ58611
9. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar wastadeddau Gwent? OQ58623
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella safonau lles anifeiliaid? OQ58604
Cwestiynau amserol sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn heddiw gan Sioned Williams ac i'w ateb gan y Trefnydd. Sioned Williams.
1. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ar gynlluniau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? TQ670
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Un yn unig heddiw. Natasha Asghar.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Cadeirydd dros dro i'r Cyfarfodydd Llawn, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod. Bil addysg awyr agored (Cymru) yw hwnnw. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y...
Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil manteisio ar fudd-daliadau, a galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Does yna ddim cais i ganu'r gloch. Felly, mae'r...
Dyma ni, felly, yn cyrraedd y ddadl fer.
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia