Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch i Peredur Owen Griffiths am gyflwyno’r cwestiwn hwn. Roeddwn yn awyddus i sôn hefyd am y pwynt ynglŷn â chronfeydd wrth gefn, gan y credaf ei fod yn bwysig, ac rydych yn llygad eich lle—nid yw pobl o reidrwydd yn deall y diffiniad o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy, yn enwedig y cynghorau sy’n eu galw’n gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy ac yna byth yn eu defnyddio. Felly, yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, roedd gan gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn 2019-20, gyfanswm o £288 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Yn 2021, cynyddodd y ffigur hwnnw i £400 miliwn. A wnewch chi egluro pam fod y tri chyngor hynny, dau ohonynt yn cael eu rhedeg gan eich plaid, wedi ychwanegu £110 miliwn at eu cronfeydd defnyddiadwy mewn blwyddyn, ac a ydych chi'n cefnogi hynny?