Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 26 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel y gwelsoch, o bosibl, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, Weinidog, gwnaed gwerth cannoedd o bunnoedd o ddifrod i gar unigolyn a fu'n ymgeisydd etholiadol i gyngor Casnewydd yn 2022, ac nid dyna’r ymosodiad cyntaf ar ei eiddo, gyda'i gartref yn cael ei dargedu, hoelion yn cael eu gwthio i mewn i deiars ei gar, a throlio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr etholiadau cyngor a Senedd diweddar. Felly, o ystyried hyn, Weinidog, beth yw eich barn ynglŷn ag ymgeiswyr cynghorau, sy’n ddigon dewr i gynrychioli eu cymunedau, sy'n gorfod ymdopi â’r gamdriniaeth ffiaidd hon?