Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 26 Hydref 2022.
Gallaf weld bod llefarydd Plaid Cymru a minnau wedi bod yn cael yr un sgyrsiau ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar, a’ch bod yn clywed yr un neges â minnau i raddau helaeth, sy’n beth cadarnhaol yn fy marn i. Unwaith eto, dyna un o'r pethau eraill rydym yn edrych arnynt o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol i gefnogi llywodraeth leol mewn perthynas â'r disgwyliadau ychwanegol a osodwn ar lywodraeth leol, y pethau ychwanegol y gofynnwn iddynt eu gwneud, gan archwilio gyda hwy yn awr beth yn benodol—. Felly, rydych wedi enwi un neu ddau o'r meysydd penodol hynny, ond rydym wedi gofyn i swyddogion archwilio gyda llywodraeth leol beth yn benodol sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar eu hadnoddau, ar eu hamser, ar eu cyllid ac ati, i weld a oes rhywbeth y gallwn ei wneud yn ymarferol i'w helpu yn y cyswllt hwnnw hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny’n fyw iawn ar hyn o bryd.