Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 26 Hydref 2022.
Felly, yn y lle cyntaf, rydym yn ceisio cael Llywodraeth y DU i ddeall pa mor bwysig o fewn CThEM yw codi'r taliad fesul milltir mewn perthynas â theithio sy'n gysylltiedig â gwaith. Felly, dyna'r ffordd gyntaf y ceisiwn fynd i'r afael â hyn, a gwn fod swyddogion fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, wedi bod yn weithgar yn eu trafodaethau gyda CThEM ynglŷn â hyn. Mae fy swyddogion innau wedi codi'r mater gyda'r Trysorlys hefyd, a fy mwriad yw codi'r mater gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys maes o law yn ogystal.