Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 26 Hydref 2022.
Cynhaliais gyfarfod rhagarweiniol gyda'r arweinydd newydd ym mis Awst. Ac rwyf hefyd yn cyfarfod â'r holl arweinwyr yn rheolaidd drwy ein cyfarfodydd bob pythefnos gyda bwrdd gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac ar wahân ar faterion fel diwygio trethiant. Rwyf hefyd wedi trafod heriau ariannol llywodraeth leol gyda dirprwy arweinydd sir Fynwy drwy’r is-grŵp cyllid.