Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 26 Hydref 2022.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant, ac rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad hefyd, oherwydd mae gennym weinyddiaeth newydd yn San Steffan, ond nid oes gennym lechen lân o gwbl, oherwydd mae olion bysedd y Prif Weinidog a'r Canghellor ar hyd yr argyfwng economaidd y mae pawb ohonom yn ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae Jack Sargeant yn iawn eto; ei etholwyr sy'n teimlo'r boen. Byddant yn ei theimlo drwy'r cynnydd yn eu taliadau morgais, a byddant yn ei theimlo os nad yw budd-daliadau'n codi yn unol â chwyddiant. Felly, rwy'n credu mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw rhagor o gyni ar hyn o bryd, ond mater arall yn llwyr yw i ba raddau y mae Llywodraeth y DU hyd yn oed yn clywed hynny.