Polisi Treth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:12, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, mae gennym ganllaw cyflym i gyfraddau treth incwm Cymru a gyhoeddwyd yn 2021, felly mae hwnnw ar gael i bob cyd-Aelod edrych arno a'i ddefnyddio. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae'n dangos effeithiau newidiadau i gyfraddau Cymreig o refeniw treth incwm datganoledig. Felly, rydych yn gallu chwarae o gwmpas ag ef ac edrych ar wahanol bethau. Ond er eglurder, pe baem yn codi neu'n gostwng cyfradd sylfaenol treth incwm 1 geiniog ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai'n cael effaith o £220 miliwn; ar gyfer y gyfradd uwch, byddai'n £33 miliwn; a'r gyfradd ychwanegol, £5 miliwn. Ac wrth gwrs, fe fydd effeithiau ymddygiadol o bosibl. Nid oes gennym syniad clir iawn o beth fyddai'r effeithiau ymddygiadol; mae'n debyg y byddai'r effeithiau ymddygiadol hynny ond yn berthnasol yn y gyfradd ychwanegol, beth bynnag, oherwydd mae'r bobl hynny'n tueddu i fod yn bobl fwy symudol o bosibl a chanddynt opsiynau gwahanol ar gyfer strwythuro eu materion treth. Ond wrth gwrs, gwn fod y Pwyllgor Cyllid blaenorol wedi gwneud gwaith diddorol a edrychodd ar botensial pobl yn symud ar draws ffiniau er mwyn osgoi cynnydd mewn cyfraddau ychwanegol o dreth incwm. Felly, mae'r holl wybodaeth honno ar gael, ac rwy'n argymell canllaw cyflym cyfraddau treth incwm Cymru i gyd-Aelodau sydd eisiau darganfod ychydig mwy am oblygiadau posibl  gwahanol ddewisiadau. Ond dylwn ddweud y bydd unrhyw ddewis a wnawn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr.